google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio pedwar wedi i fachgen ddioddef anafiadau difrifol ar nos Galan

Advertisements

Mae pedwar person wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen 17 oed ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn Abertawe ar nos Galan.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i Ffordd Mysydd, Plasmarl am 21:45 nos Fercher yn dilyn adroddiad o aflonyddwch.

Dywedodd y llu bod bachgen 17 oed o’r Clas yn Abertawe wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn a bod ei deulu’n cael ei gefnogi gan swyddogion arbennig.

Mae dyn 18 oed o Dreforys a tri bachgen 17 oed – un o Gwmrhydyceirw, un o’r Clas ac un o Treboeth – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi cythrwfl (affray) mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Katherine Barry: “Roedd hyn yn gyfres o ddigwyddiadau o anhrefn yn ymwneud ag un grŵp o ddynion ifanc.

“Rydym yn ymwybodol bod postiadau am y digwyddiad hwn wedi cael eu rhannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol.”

Mae’r llu’n annog unrhyw un â unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.


BBC News

Views: 1

See also  Eluned Morgan hopes to ‘turn new page’ for Welsh Labour

Check Also

Cardigan man deliberately placed human faeces in public swimming pool

A 19 year-old man has admitted to deliberately placing human faeces in a public swimming …

Gwasanaeth ambiwlans yn cyhoeddi ‘digwyddiad difrifol’ wedi’r tywydd poeth

Dywedodd Judith Bryce o’r gwasanaeth: “Drwy ddatgan digwyddiad difrifol, mae’n caniatáu i’n timau ganolbwyntio ein …

Bristol Rovers: Newport forward Bobby Kamwa joins Pirates

Bristol Rovers have signed forward Bobby Kamwa from fellow League Two side Newport County on …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
car transport western us. Pontoon boat transport. power only alabama.