google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio llanc yn dilyn achos o drywanu ym Mhowys

Advertisements

Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ar ôl achos o drywanu ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad i ardal Lôn Parker yn Y Drenewydd am 20:25 nos Wener.

Cafodd dyn 18 oed ei gludo i’r ysbyty gydag anaf i’w fraich.

Mae’r llanc 16 oed yn cael ei amau o achosi anaf difrifol ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Mewn digwyddiad gwahanol, mae ‘na adroddiadau bod dyn arfog wedi ei weld yn rhedeg ar ôl dyn arall yn y dref yn gynharach ddydd Gwener, yn ôl Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd dyn 20 oed ei arestio a’i gyhuddo o fygwth person gyda gwrthrych â llafn mewn man cyhoeddus.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad oedd cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.


BBC News

See also  Man accused of encouraging 'carnage' and 'mayhem' during Ely riot

Check Also

Llynnoedd hudolus Cymru, mewn chwedl a hanes

Un a ysgrifennodd am hanes Llyn Syfaddan oedd y croniclydd o Faenorbŷr, Sir Benfro, Geraldus …

AS Reform yn dweud iddi gael ei beirniadu am fynd i’r Eisteddfod

Dywedodd Ms Jenner, cyn-athrawes, ei bod hi eisiau gweld mwy o athrawon sy’n siarad Cymraeg …

Burnham i alw uwchgynhadledd prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Bydd Burnham yn cwrdd â dirprwy brif weinidog Llywodraeth Cymru, Sioned Williams, yn ystod yr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime