google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio gyrrwr fan wedi marwolaeth beiciwr modur elusen gwaed

804c8840 5807 11f0 9b80 41c5c093ab9b.jpg

Advertisements

Mae dyn 56 oed wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth beiciwr modur oedd yn cario gwaed i elusen.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng fan wen Volkswagen a beic modur elusen Beiciau Gwaed Cymru tua 18:25 nos Fercher.

Fe ddigwyddodd ar yr A478 ym Mhentregalar yng ngogledd y sir.

Bu farw dyn yn ei 70au oedd ar y beic modur yn y fan a’r lle.

Mae dyn 56 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu luniau dash-cam, i gysylltu â’r llu.

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen sy’n darparu gwasanaeth cludo am ddim i’r gwasanaeth iechyd, yn cario eitemau fel gwaed a phlasma ar draws y wlad.


BBC News

Views: 0

See also  'I just wanted to give Prince William a big cwtch'

Check Also

Cyhoeddi enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd

Mae Dafydd yn 19 oed ac yn dod o bentref Llanbedrog ym Mhen Llŷn. Yn …

Metal detectorist finds WW2 soldier's silver cigarette case hundreds of miles from where he died

Stan Drew’s cigarette case turns up in a Netherlands field, about 370 miles from where …

Ben Davies: Wales defender should have Tottenham Hotspur future – Gary Mabbutt

Former captain Gary Mabbutt hopes Ben Davies will have a future at Tottenham Hotspur after …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.