google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn wedi i ddynes farw ar fferi o Abergwaun i Rosslare

Advertisements

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes farw ar fferi a deithiodd o Abergwaun i Rosslare yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Cafodd Gardaí (heddlu Iwerddon) a’r gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar fferi Stena Line toc wedi 17:00 dydd Mawrth.

Mae Stena Line wedi cadarnhau bod y digwyddiad wedi digwydd ar eu fferi 14:00 o Abergwaun, sydd wedi’i docio yn Harbwr Rosslare.

Dywedodd y Gardaí bod crwner lleol wedi cael gwybod am y digwyddiad. Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal a dywedodd y Gardaí mai canlyniad hynny fydd yn pennu cwrs eu hymchwiliad.

Mae llu mawr o Gardaí, gan gynnwys swyddogion arfog, a gwasanaethau brys eraill yn y lleoliad.

Mae gwasanaeth fferi 19:00 o Rosslare wedi’i ganslo, gyda theithwyr wedi hwylio ar fferi Irish Ferries o Rosslare i Benfro, yn ôl y cwmni.


BBC News

See also  Campaign to save Cwm Rhondda chapel for community

Check Also

Welsh Gender Service surgical referrals paused for clinical review

The Welsh Gender Service has paused scheduled and new referrals for gender-affirming surgeries, after the …

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime