google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beic modur elusen gwaed

Advertisements

Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio ar ôl gwrthdrawiad difrifol ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin ddydd Llun.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng Audi A3 du a beic modur elusen Beiciau Gwaed Cymru (Honda 750) ar yr A48 rhwng troad yr Ardd Fotaneg a throad Llanddarog am tua 18:00.

Cafodd beiciwr modur elusen gwaed ei gludo i’r ysbyty lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol gydag anafiadau sy’n cael eu disgrifio fel rhai all beryglu ei fywyd.

Cafodd gyrrwr yr Audi – dyn 26 oed – ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus. Mae’n parhau yn y ddalfa.

Mae swyddogion yr heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu luniau dash-cam all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen sy’n darparu gwasanaeth cludo am ddim i’r gwasanaeth iechyd, yn cario eitemau fel gwaed a phlasma ar draws y wlad.


BBC News

See also  Bomb cyclone hits parts of the US with heavy snow

Check Also

Angen i’r llywodraeth ‘ddysgu gwersi’ wedi’r holl danau gwyllt

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y De: “Rydym yn ddiolchgar iawn am …

Merthyr Tydfil hospital helipad use suspended after fire breaks out

Emergency services are responding to a fire near to a hospital helipad which has led …

Bonnie Tyler: Family’s thanks for compassion after funeral

Tyler’s family thanked Only Men Aloud “for the beautiful singing during the service and after”. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime