google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn, 21, yn sgil fideo yn bygwth disgyblion coleg

Coleg Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Coleg Merthyr Tudful y byddai’r safle ar agor i fyfyrwyr ar ddiwrnod cyntaf y tymor

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fideo yn bygwth disgyblion yng Ngholeg Merthyr Tudful ledaenu ar y we.

Dywedodd Heddlu’r De fod dyn 21 oed o ardal Gwent wedi cael ei arestio nos Sul.

Dywedodd y coleg ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai’r drysau’n agor i fyfyrwyr ar ddiwrnod cyntaf y tymor.

Yn ôl yr heddlu, fe gawson nhw wybod am fideo ar Youtube nos Sul, “lle y cafodd bygythiadau eu gwneud tuag at bobl sy’n mynychu coleg Merthyr Tudful”.

Mae’r dyn a gafodd ei arestio yn y ddalfa, meddai’r heddlu, ac mae “ymchwiliad ar y gweill nawr i sefydlu’r amgylchiadau llawn”.

‘Diolch i’r heddlu am weithredu yn gyflym’

Mewn post Facebook, diolchodd Cyngor Merthyr Tudful i’r heddlu am “weithredu’n gyflym”, gan ddweud y byddai’r coleg “ar agor heddiw, fel y cynlluniwyd, ar gyfer diwrnod cyntaf y myfyrwyr yn ôl y flwyddyn academaidd hon”.

Dywedodd tîm gweithredol y coleg mewn datganiad fod y penderfyniad i agor y coleg wedi’i wneud yn dilyn “adolygiad ac asesiad trylwyr o ddiogelwch staff, addysgwyr a defnyddwyr yr adeilad”.

“Mae’r coleg yn parhau fod mewn cyswllt gyda Heddlu De Cymru, wrth i’w hymchwiliadau a’u hymholiadau barhau.”


BBC News

Advertisements

See also  Man who set up support for people living with HIV dies

Check Also

United Rugby Championship: Scarlets lock Alex Groves glad to be back playing game he loves

Groves was born and brought up in Johannesburg but, aged 19, moved to join Bristol …

Michael Sheen yn teimlo’r cyfrifoldeb o chwarae rhan Owain Glyndŵr

Un o’r syniadau mae Michael yn ceisio ei gyfleu yw i ysgogi’r gynulleidfa i fod …

‘Paid â rhuthro galar’ – y canwr Steffan Lloyd Owen, ddegawd ers colli ei fam

Mae Steffan bellach yn dad ei hun, sydd wedi rhoi persbectif newydd iddo. “Mae rhywbeth …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime