google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Arestio dyn 18 oed ar amheuaeth o lofruddio merch, 17

Mae dyn ifanc 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth merch 17 oed yn Sir Caerffili.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon tua 07:15 fore Iau, yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi cael eu hanafu’n ddifrifol.

Fe wnaeth yr heddlu – gan gynnwys swyddogion arfog – fynychu, ac fe gafodd merch leol 17 oed ei chyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle.

Mae menyw leol 38 oed hefyd wedi cael ei chludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Mae dyn 18 oed o Drecelyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio, ac mae’n parhau yn y ddalfa.


BBC News

Advertisements

See also  'Cyfuniad o ffactorau' wedi arwain at farwolaeth tu allan i ysbyty - cwest

Check Also

Vaping rates appear to be dropping among schoolchildren, according to figures

For the first time in several years, the rates of vaping among schoolchildren in Wales …

BBC weatherman Derek Brockway to walk away from role after 30 years

Brockway has celebrated his roots on screen, referring to the Vale of Glamorgan town as …

Derek Brockway i adael ei rôl gyda’r BBC wedi 30 mlynedd

Ar ôl bron i 30 mlynedd, mae un o gyflwynwyr tywydd mwyaf adnabyddus BBC Cymru …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime