google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arddangosfa yn dathlu’r arlunydd ‘ysbrydoledig’ Gwen John

Advertisements

Un arall sydd wedi ei ysbrydoli gan hanes a gwaith Gwen John yw aelod o fand y Manic Street Preachers, Nicky Wire.

Wrth ymweld â’r arddangosfa yng Nghaerdydd, dywedodd iddo ddarganfod ei chelf am y tro cyntaf wrth ymweld ag un o’i hoff lefydd yng Nghymru, sef Dinbych-y-pysgod.

“Natur anghaffaeladwy Gwen sydd wastad yn fy niddori,” meddai.

“Ysgrifennon ni gân hefyd ynglŷn â pherthynas ddiddorol rhyngddi hi a’i brawd, Augustus, oedd hefyd yn artist arbennig ond yn bersonoliaeth gwahanol iawn.

“Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi am y 25 o flynyddoedd diwethaf a bod yn onest.”

Bydd arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn agor i’r cyhoedd ar 7 Chwefror hyd at ddiwedd Mehefin yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, cyn symud ymlaen i Gaeredin ac yna i Connecticut a Washington yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn nesaf.

Bydd pennod arbennig o raglen Llwyfan gyda Manon Steffan Ros o’r arddangosfa, ar Radio Cymru am 14:00 ddydd Sul.


BBC News

See also  Ryder Cup: How Tony Jacklin led Europe to first win 40 years ago

Check Also

Fertility patients facing delays over staff absence

Patients starting new fertility treatments at Neath Port Talbot Hospital are facing delays of “at …

Galw am helpu adeiladwyr y dyfodol ar ôl i 100 ymgeisio am 6 lle hyfforddi

Mae angen cynllun hirdymor a chyllid i greu mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc …

Yr ymgyrch yng Nghrymych i roi ail fywyd i hen esgidiau rygbi

Fel athro yn Ysgol Bro Preseli, mae Martin yn gweld fod ymgyrchoedd fel hyn yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime