google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Apêl i chwilota am drysorau ar ôl darganfod beiblau 400 oed

Weithiau mae ‘na drysorau yn gallu llechu yng ngwaelod cypyrddau – yn enwedig efallai mewn adeiladau sydd yn ganrifoedd oed…

Dyna pam mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi gwneud apêl o’r newydd i eglwysi chwilota am eitemau gwerthfawr, wedi i ddau Feibl 400 oed gael eu darganfod yn ddiweddar.

Yn sgil apêl Gwaelod y Cwpwrdd fe ddaeth yr Esgobaeth o hyd i Feiblau’r Esgob Parry o 1620 – un mewn festri eglwys wledig a’r llall mewn bag siopa plastig!

Dywedodd Mari James, swyddog datblygu llyfrgell Cadeirlan Tyddewi, eu bod nawr yn apelio unwaith eto ar eglwysi a sefydliadau i “dyrchu yng ngwaelod eu cypyrddau am hen Feiblau neu lyfrau gweddi” rhag ofn bod mwy o drysorau heb eu darganfod.

“Gyda ‘hen’ rydyn ni’n golygu 300 neu 400 mlwydd oed, pan gynhyrchwyd Beiblau a Llyfrau Gweddi yn y Gymraeg am y tro cyntaf,” meddai.


Source link

Advertisements

See also  South Africa 43-0 Wales: Springboks ease to Nations Championship victory in Durban

Check Also

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Dolly Parton i ymddangos ar fersiwn newydd o Jolene – yn Gymraeg

Mae’r fideo hefyd yn dangos Jada gyda Dolly yn cytuno i ganu ar y trac, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime