google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Apêl am ragor o wirfoddolwyr i fflôt Siôn Corn ardal Caernarfon

Advertisements

Dywedodd Dylan: “Dwi’n cofio’r tro cyntaf nes i gynnig helpu allan. Ro’n i’n sefyll y tu allan i fy nghartref yn Rhosgadfan tua 11 mlynedd yn ôl efo plant fy hun yn disgwyl i Siôn Corn ddod rownd.

“Pan ‘nath o gyrraedd dwi’n cofio arogli clutch y Land Rover yn llosgi. Dyma fi’n deud wrth un o’r hogia oedd efo Siôn Corn y baswn i’n hapus i helpu os oedd angen unrhyw adeg achos fod gen i Land Rover fy hun.

“Erbyn y noson wedyn ro’n i wedi cael galwad ffôn i fynd allan i helpu nhw.”

Dros y blynyddoedd roedd niferoedd aelodau’r Ford Gron yn dirywio a rhai o’r aelodau yn mynd yn hŷn. Roedd ‘na bryder y byddai’r holl beth yn dod i ben gan nad oedd digon o bobl i helpu allan.

“Dwi’n cofio Siôn Corn yn dod o gwmpas y lle ‘ma ers pan o’n i’n ifanc, felly do’n i ddim yn gallu eistedd nôl a jest gweld yr holl beth yn dod i ben,” eglurodd Dylan.

“‘Nes i ddim sylwi cymaint o waith oedd y trefnu. Erbyn rŵan mae’r gwaith yn dechrau tua mis Awst, achos ‘da’n ni’n gorfod neud cais am street collection licence i Cyngor Gwynedd a ‘neud yn siŵr fod yr insurance yn ei le.

“Mae’r fflôt ei hun tua 20 oed ac mae’r daith yn cymryd tua tair wythnos i gyd. Rydan ni allan am chwe noson o’r wythnos am y cyfnod yma, felly mae o’n waith caled, yn enwedig os oes angen ail drefnu os ydi’r tywydd yn wael,” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Review into HMP Leyhill after murderer and two others abscond

Check Also

North Wales Crusaders: Brewery Field to become permanent home

The club, which plays it home games at Stadiwm CSM in Colwyn Bay, say they …

Tân gwyllt ger Llanymddyfri yn gorfodi nifer o bobl i adael eu tai

Ychwanegodd: “Y frigâd dân, mae’n rhaid i fi ganu eu canmoliaeth nhw – maen nhw …

S4C yn amddiffyn penderfyniad i ddarlledu cyfres am Neil Foden

Mae S4C wedi amddiffyn eu penderfyniad i ddarlledu cyfres ddrama newydd am y cyn-brifathro a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lowa women’s hiking boots. elfbar elfa basic units (battery carrier).