google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Anodd’ bod yn Geidwadwr wrth ymgyrchu – ymgeisydd

Yn siarad ar Radio Wales Breakfast, dywedodd Ms Jones: “Dwi’n meddwl ei fod yn iawn fod y Prif Weinidog wedi ymddiheuro am ei benderfyniad ddoe.

“Dwi ddim yn meddwl y cafodd hynny’n gywir.

“Ond dyna un peth allwch chi ddisgwyl gan Rishi, yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog mae o wastad wedi bod yn glir pan mae’n methu gwneud rhywbeth, mae wastad wedi ymddiheuro a bod yn blwmp ac yn blaen.”

Ychwanegodd y cyn-AS dros hen etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed: “Mae wedi bod yn ddechrau anodd, rydym wedi gwneud sawl camgymeriad.

“Ond bydd y craffu a’r pwysau wastad arnom ni oherwydd ‘da ni wedi bod mewn llywodraeth am amser hir.”

Er iddi gyfaddef ei fod yn “anodd” mynd at ddrysau etholwyr a dweud ei bod hi’n ymgeisydd Ceidwadol, dywedodd: “Dwi ddim yn cael yr argraff ein bod ni gyd yn doomed yn y blaid Geidwadol.”

Yn ôl Plaid Cymru, mae “penderfyniad amharchus” Mr Sunak i adael y digwyddiad D-Day yn “dweud cyfrolau am ei gyfnod fel Prif Weinidog”.

Dywedodd llefarydd y byddai cyn-filwyr a’u teuluoedd wedi eu dychryn o weld Mr Sunak yn “blaenoriaethu ei ymgyrch etholiadol dros gofio’r rhai aberthodd eu bywydau er mwyn i ni fyw mewn heddwch”.


Source link

Views: 0

See also  European Challenge Cup: Ospreys v Lions - Morgan returns as skipper

Check Also

British Athletics Championships: Charlotte Henrich breaks Welsh record

The first medal of the day went to Bethan Davies, who claimed her eighth UK …

T20 Women’s County Cup: Hampshire Hawks crush Glamorgan

Women’s T20 County Cup, Spytty Park, Newport Hampshire Hawks 201-3 (20): Sweet 77, Bouchier 63 …

County Championship: Burns leads Surrey fightback v Glamorgan

Before the start of day three, Surrey lost the services of England paceman Gus Atkinson …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment....