google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Annog mam i adael ei swydd am nad oes gofal i’w phlant awtistig

Advertisements

Mae Betsan – sydd o Drebannws, ardal sydd ar y ffin rhwng sir Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot – hefyd yn gofalu am ei mam.

Mae’n dweud bod gofalu yn gallu “cymryd lot allan” o berson a’i bod yn hawdd “colli hunaniaeth”.

“Mae gweithio mor bwysig i fi i fod yn Bets, i gymdeithasu â phobl, ac mae ‘da fi freuddwydion hefyd,” meddai.

Disgrifiodd Betsan ei hefeilliaid wyth oed, Bowann a Brielle, fel “gwych a sassy“.

Mae’r ddau blentyn yn awtistig, angen gofal un-i-un a ddim yn siarad er eu bod wedi dechrau dweud ychydig o eiriau a brawddegau yn ddiweddar.

Dywedodd y fam ei bod eisiau rhoi “bywyd llawn” i’r merched “cariadus” ond na allai fforddio wneud hynny heb weithio.

“Mae cael unrhyw fath o ofal plant yn her enfawr, mae’n costio dros £300 y ddydd,” meddai.

Mae “jyglo” popeth yn dod gyda’i heriau, yn ôl Betsan, gyda hi a’i gŵr “yn byw ar goffi a diet coke” oherwydd nad yw’r plant yn cysgu’n dda.

“Mae hyd yn oed codi yn y bore, gorfod dal nhw i lawr i frwsio eu dannedd ac i frwsio eu gwallt a’u gwisgo – mae’n frwydr enfawr. Mae hynny cyn i fi hyd yn oed gyrraedd y gwaith.”


BBC News

Views: 0

See also  Bywyd yn 'uffern' i deuluoedd rhai fu farw ar daith padlfyrddio

Check Also

Hosts Wales bow out of U19 Euros with Denmark defeat

Wales’ hopes of securing a Fifa Under-20 World Cup play-off place were ended after a …

Wales trio Phillips, Neumann and Fleming to leave Harlequins

Wales internationals Carys Phillips, Lisa Neumann and Abbie Fleming will leave Harlequins at the end …

Ffordd yng nghanol Abertawe ar gau ar ôl i dân achosi mwg du

Mae ffordd yng nghanol Abertawe wedi cau wedi i dân mewn safle diwydiannol achosi cwmwl …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
bp batam terima kunjungan akademik universitas batam, tingkatkan pengetahuan pertumbuhan kota batam.