google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Angen ‘newid sylfaenol’ yn niwylliant Cyngor Gwynedd wedi troseddau Foden

Advertisements

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys, mai “geiriau gwag ydi ymddiheuro i’r goroeswyr os nad ydym o ddifri am weithredu”.

“Mae’r dioddefwyr ar flaen fy meddwl a dwi’n ymddiheuro’n ddiffuant i bawb gafodd eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn,” meddai.

“Yn syml, nid yw’n ddigon da na chafodd eu lleisiau eu clywed.

“Mae Cyngor Gwynedd ar siwrnai – o fethiant tuag at ein huchelgais o fod yn rhagori ym maes diogelu ein plant.”

Ychwanegodd Ms Jeffreys: “Ni fydd methiannau o’r math a amlygir yn yr adolygiad yn digwydd eto.

“Trwy weithio gyda’n gilydd – gyda phawb yn rhwyfo i’r un cyfeiriad – gallwn wneud cynnydd gwirioneddol ac amserol yn y maes hanfodol bwysig yma.

“Ni all unrhyw adran, plaid nag unigolyn gyflawni newid ar eu pennau eu hunain, mae’n rhaid gweithio gyda’n gilydd ar draws ffiniau er mwyn sicrhau dyfodol diogel i blant a phobl ifanc y sir.

“Dwi’n ffyddiog fod y Cyngor heddiw wedi cymryd cam arall ar y daith i ddysgu gwersi ac i weithredu er mwyn sicrhau fod trefniadau diogelu plant y sir yn hollol gadarn.”


BBC News

Views: 2

See also  Six men found guilty of Ely riots after e-bike crash deaths

Check Also

Liberato Cacace: Wrexham defender Cacace relishing New Zealand’s World Cup challenge

New Zealand, who came through the Oceania Football Confederation qualifiers to reach the finals, are …

Twin Peaks actor Owain Rhys Davies dies suddenly at 44

The Welsh National Theatre also paid tribute, with a statement reading: “Owain was a remarkable …

Ethan Galbraith: Swansea City and Northern Ireland midfielder ‘all good’ after calf injury

Swansea City midfielder Ethan Galbraith said his calf injury is “all good” after being included …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.