google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Angen mwy o ‘swyddi da’ i gadw pobl ifanc yn Ynys Môn

Mae Dafydd Gruffydd yn rheolwr gyfarwyddwr ym Menter Môn. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi 85 o bobl ar draws yr ardal.

Gobaith y fenter yw cefnogi mwy o bobl ifanc yn y dyfodol trwy brosiectau ynni adnewyddadwy newydd.

“Ynys Môn yw’r ynys ynni. Mae ‘na gyfleoedd yma o ran solar, gwynt, y llanw a niwclear o bosib. Mae’r rhain yn swyddi da sydd angen sgiliau tebyg ac felly mae angen i ni gefnogi ein pobl ifanc ni i gael y sgiliau yna.

Ychwanegodd: “Dwi’n nabod nifer o gyrff ar Ynys Môn, gan gynnwys ni ein hunain, sy’n cael trafferth yn recriwtio pobl ifanc ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n sôn am y cyfleoedd cyffrous sydd yma.

“‘Da ni angen pobl ifanc i aros yma a datblygu’r diwydiant er mwyn i’r ardal gyrraedd ei photensial.”

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod economi cryf yn “arwain at wasanaethau cyhoeddus cryf”, gan ychwanegu “nad oes gan Lafur gynlluniau i dyfu economi Cymru, i gael pobl mewn swyddi, i gynyddu cyflogau gweithwyr yng Nghymru nac i gefnogi busnesau Cymreig”.

Dywedodd Llafur: “Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn canolbwyntio ar warchod swyddi Cymraeg, cael pobl allan o dlodi a mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw y mae’r Torïaid wedi ei greu,” gan ddweud eu bod wedi eu “cyfyngu gan lywodraeth Geidwadol” yn San Steffan.

Mae Plaid Cymru a Reform wedi cael cais am ymateb.


Source link

Views: 1

See also  Young people feel confused as vote looms

Check Also

Llacio rheolau ar feysydd gwersylla dros dro yng Nghymru

Mae Harri Roberts, 25 oed o Aberdyfi yng Ngwynedd, yn gweithio ar fferm y teulu …

Rupert Shipperley: Wales and Great Britain captain ends international hockey career

Hockey Wales CEO Paul Whapham said: “Rupert has been an outstanding ambassador for Welsh hockey, …

‘Teimlad swreal’ ennill Britain’s Got Talent

Beth nesaf felly i’r côr? “Dwi ddim yn gwybod lle mae hwn am fynd a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime