google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Angen i Starmer fynd’: Aelod Seneddol Llafur Cymreig

Advertisements

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Cymreig arall, oedd hefyd ddim am gael ei enwi, bod y sefyllfa yn un “ofnadwy”, gan ychwanegu y dylai Mr Starmer aros, ond y dylid diswyddo ei bennaeth staff, Morgan McSweeney, sy’n cael ei gyhuddo gan nifer o bobl o roi cyngor gwael i’r Prif Weinidog.

Roedd Llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru, Mims Davies yn sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher.

Mewn cyfweliad â Radio Wales Breakfast ddydd Iau dywedodd ei bod yn gegrwth gyda’r datblygiadau.

“Roeddwn i ar y fainc flaen yn eistedd drws nesa’ i’n llefarydd ar iechyd, ac fe glywson ni’r Prif Weinidog o’r diwedd yn cyfaddef ei fod yn gwybod am y cyfeillgarwch rhwng Peter Mandelson a’r pedoffeil Jeffrey Epstein.

“Fe allech chi glywed pin yn disgyn, a dwi’n meddwl bod pawb wedi eu syfrdanu, gan gynnwys Aelodau Seneddol Llafur.

“Ond alla i ddweud wrth bawb y bore ‘ma, dwi’n credu y dylai’r dioddefwyr fod yn ganolog i hyn i gyd.

“Fe ddylen ni fod yn meddwl amdanyn nhw, yn darganfod pwy sy’n gyfrifol am y penderfyniad yma, ond yn y bôn mae’n dangos crebwyll gwael y Prif Weinidog eto.”


BBC News

Views: 1

See also  Ban on Jolene Bunting to seek re-election quashed

Check Also

Canfod corff cerddwr ar Fynyddoedd y Berwyn

Mae corff cerddwr wedi cael ei ddarganfod ar Fynyddoedd y Berwyn yn y gogledd-ddwyrain. Cafodd …

Drama Y Streic Fawr i ddweud stori Friction Dynamics

Mae hi’n 25 mlynedd ers diwrnod cyntaf un o streiciau diwydiannol hiraf hanes Cymru a …

AS yn dwyn fy syniad o gludo periannau anadlu segur dramor

Mae BBC Cymru wedi gweld y ddogfen sy’n dweud bod yr AS yn ysgrifennu at …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.