google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Angen cytundeb Senedd Cymru cyn i’r GIG allu cynnig cymorth i farw’

C2e59620 0d56 11f0 ba12 8d27eb561761.jpg

Advertisements

Fe fydd y ddeddf, sy’n cyfreithloni cymorth i farw yn achos pobl ag afiechydon terfynol, yn berthnasol i Loegr a Chymru, ond mae cwestiynau cyfansoddiadol wedi codi oherwydd ei geiriad.

Yn ogystal â chyfreithloni’r cysyniad o gael cymorth i farw yn y ddwy wlad, mae’n amlinellu sut fyddai’r fath drefn yn gweithio – gan orgyffwrdd â gofynion cyfreithiol y maes gofal iechyd sydd fel arfer dan reolaeth Senedd Cymru.

O ganlyniad mae dadl wedi codi o ran faint o reolaeth y dylai’r Senedd gael.

Fis Hydref y llynedd fe bleidleisiodd y Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith yn caniatáu’r hawl i ddewis cael marw.

Pleidleisiodd 19 AS o blaid, 26 yn erbyn ac fe wnaeth naw arall ymatal – neu wrthod pleidleisio.

Mae disgwyl y bydd yna o leiaf un bleidlais ar y mater yn y Senedd, i ystyried yn y lle cyntaf a oes cytundeb i’r ddeddfwriaeth ddod i rym o fewn meysydd dan reolaeth y Senedd.

Mae disgwyl i’r bleidlais honno gael ei chynnal yn yr hydref.

Ni fyddai’n orfodol yn gyfreithiol ond fe fyddai’n amlygu a yw Senedd Cymru’n credu y dylai’r ddeddf fod yn weithredol o fewn meysydd datganoledig.

Mae’n debygol y byddai angen ail bleidlais pe byddai Llywodraeth Cymru eisiau cynnal gwasanaeth hawl i farw, ond fe allai’r weinyddiaeth ddewis peidio cynnal pleidlais os yw’r Senedd yn gwrthwynebu’r polisi.


BBC News

Views: 2

See also  British Sign Language: 'Devastating' move to suspend GCSE

Check Also

Pobl ifanc mewn balaclafas yn targedu pobl ar lwybr Taith Taf

Yn ôl map troseddu Heddlu’r De, roedd 34 adroddiad yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn …

Rheoli amser sgrin yn ‘anodd’ i rieni yn ystod gwyliau’r haf

Yn ystod wythnos olaf y tymor, roedd disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle yn edrych ymlaen at …

Vaughan Roderick yn poeni am ddyfodol newyddiaduraeth

Dywedodd Vaughan bod sefyllfa’r diwydiant papurau newydd hefyd yn bryderus. Tra bod nifer fawr yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Use the salehoo directory to find trustworthy, low cost suppliers who stock your chosen product. This product has multiple variants.