google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Anafiadau ar ôl i dren i Gaerdydd daro tractor yn Sir Henffordd

116cb860 3704 11f0 96c3 cf669419a2b0.jpg

Mae trên oedd yn teithio i Gaerdydd wedi taro tractor a threlar ar groesfan yn Sir Henffordd, gan atal gwasanaethau yn yr ardal.

Nid yw’r trên wedi dod oddi ar y rheilffordd, ond y gred yw bod pobl wedi cael mân anafiadau.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig bod chwech o bobl yn cael eu hasesu.

Roedd y trên yn teithio o Fanceinion i Gaerdydd gyda 56 o deithwyr.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi eu galw i’r digwyddiad ger Leominster am tua 10:45.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod y gwasanaeth 08:30 wedi taro’r cerbyd ar groesfan.

Mae pob gwasanaeth rhwng Henffordd a Craven Arms wedi ei atal, gyda Network Rail yn rhybuddio y gallai achosi problemau nes 19:00 nos Iau.

Ar eu gwefan mae Trafnidaeth Cymru’n dweud bod “pob llinell ar stop yn yr ardal, rydym wrthi’n trefnu gwasanaethau bws brys”.

Dywedodd llefarydd Trafnidiaeth Cymru y dylai pobl wirio’r wybodaeth ddiweddaraf, dolen allanol cyn dechrau ar eu taith, gan ddweud y bydd tocynnau cael eu derbyn gan ddarparwyr eraill.


BBC News

Advertisements

See also  Newport County news: Exiles at full strength for Colchester after sickness outbreak

Check Also

Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Yn ôl Mair Morgan, sydd ymhlith sawl cenhedlaeth o gyn-ddisgyblion Ysgol Bancffosfelen, mae yna “siom …

Cyn-AS yn cyfaddef camddefnyddio cyfrifiadur er mwyn gamblo

Yn Llys y Goron Caerdydd mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi cyfaddef …

Cyn-AS yn cyfaddef camddefnyddio cyfrifiadur er mwyn gamblo

Yn Llys y Goron Caerdydd mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi cyfaddef …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime