google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Alzheimers: ‘Ti’n gweld y person yn diflannu’

Mae Katrina’n dweud fod rhwydwaith o gefnogaeth yn amhrisiadwy iddi fel gofalwr: “Mae Cymdeithas Alzhimer’s wedi bod yn gefnogaeth mawr a dwi’n lwcus fod gen i swyddog cefnogaeth da iawn sy’ wedi trefnu grantiau a gofal seibiant.

“Mae grŵp o ni ofalwyr yn cyfarfod bob mis ar Zoom ac mae hynny’n rhoi cyfle i ti siarad ac i rannu ac i sôn am sut mae dy ddiwrnod wedi bod.

“Ni’n rhannu cyngor gan obeithio fod beth sy’n gweithio i un yn gweithio i’r llall. Ac mae’r rhwydwaith yno i gefnogi ti.”

Cyn y diagnosis, roedd Alan yn gynghorydd ac yn gadeirydd llywodraethwyr mewn ysgol leol wedi iddo ymddeol o’i swydd yn y swyddfa drethi.

Ond mae bywyd y teulu wedi newid yn fawr, fel mae Katrina’n esbonio: “Mae bob dydd yn wahanol.

“Mae e’n ddyn hollol wahanol nawr – ni wedi bod gyda’n gilydd am 44 o flynyddoedd.

“Dwi wedi bod gyda fe ers ‘mod i’n 16 oed – mae’n drist a ti’n galaru’r golled yna. Ti’n mynd yn grac – mae’r emosiynau i gyd yn codi.

“Ond ti’n gweld y pethau positif ac yn meddwl, mae e dal yma.

“Weithiau ti’n meddwl ‘alla’i ddim neud e’ – ond wedyn ti’n edrych arnyn nhw ac maen nhw’n rhoi bawd fyny.

“Ti’n ofni bod nhw’n mynd i anghofio ti – ond dyw Alan ddim wedi. Mae wedi anghofio rhai aelodau o’r teulu ond dyw e ddim wedi anghofio fi.”


BBC News

Advertisements

See also  Teyrnged teulu i 'fam llawn cariad a gofal'

Check Also

Fears for bats in Gwynedd’s Bluebell Woods if glamping pods approved

It is an offence to kill, injure, take or disturb a bat, or to destroy, …

Northampton 28-12 Cardiff: Saints win Champions Cup opener

Northampton: Pater; Sleightholme, Hutchinson, Thame, Hendy; Belleau, Mitchell; Fischetti, Smith, Kundiona, Lockett, van der Mescht, …

Ben Whiteman responds to Preston boos as Wrexham ease pressure

Wrexham midfielder Ben Whiteman “gave it back” to jeering Preston North End fans when celebrating …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime