google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 21 2026

Teyrnged teulu i ‘fam llawn cariad a gofal’

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar Stryd Brookes tua 09:00 fore Llun.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys – gan gynnwys ambiwlans awyr – fynychu’r digwyddiad, ond bu farw Daphne Stallard yn y fan a’r lle.

Wrth roi teyrnged dywedodd y teulu ei bod “hi’n fam-gu gofalgar a oedd bob amser yn meddwl am ei phlant, a’i hwyrion sydd bellach wedi tyfu i fyny, ac yn llawn balchder.

“Roedd ganddi ffydd ac fe roddodd gymaint o’i hamser i ofalu am eraill ac mae bob amser wedi bod yn wirfoddolwr gweithgar yn yr eglwys”.

Roedd Daphne yn aelod o sawl grŵp cymunedol ac yn treulio llawer o amser yn “ymweld, neu’n ysgrifennu at unrhywun, yr oedd hi’n meddwl y byddai’n gwerthfawrogi cymorth”.

Dywedodd y teulu ei bod hi’n “gofalu am bobl o bob oedran ac yn mwynhau helpu plant ifanc yr Ysgol Sul yn enwedig”.

Ychwanegon nhw bod “ei cholli’n sydyn wedi dod fel sioc fawr i ni i gyd” ond bod yna “gysur i ni wrth i ni gredu ei bod hi wedi ymuno â’i hanwylyd Charles, a’u bod ill dau yn ddiogel yng ngofal Duw”.


BBC News

Advertisements

See also  'When fans sing 'sack the board', normally the manager goes'

Check Also

Siôn Trefor: Enwebiad Ivor Novello i gyfansoddwr ffilmiau a chyfresi Netflix

Mae Siôn Trefor ymysg 36 o gyfansoddwyr mewn naw categori sy’n cynnwys ffilm, teledu, gemau …

Aberfan 60 years on and student admits to murdering housemate

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Newport County news: Shaquille Gwengwe ban really harsh, says Hayden Mullins

Hayden Mullins says Newport County found out about Shaquille Gwengwe’s three-match ban for violent conduct …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime