google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ail bryder am y pedoffeil Neil Foden wedi ei godi yn 2019

Advertisements

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn “na ellir rhyddhau gwybodaeth sensitif am y mater difrifol yma”.

Ond mae’n dweud fod gan y cyhoedd yr “hawl i wybod fod gweithdrefnau amddiffyn plant yr ynys wedi eu dilyn yn y mater yma ac yn parhau i fod yn gryf a chyfrifol”.

Dywedodd y prif weithredwr, Dylan J Williams, ei fod yn “estyn ein cydymdeimladau dwysaf at bob plentyn a theulu sydd wedi dioddef oherwydd camdriniaeth gan Mr Neil Foden, cyn-Bennaeth Ysgol Friars, Bangor, Gwynedd”.

“Yn ogystal â chydymdeimlo gyda’r dioddefwyr, mae’r cyngor sir wedi sicrhau fod pawb sydd wedi gofyn am gefnogaeth wedi derbyn gwasanaeth addas,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae’n dristwch o waelod calon fod amrywiol bryderon wedi eu codi am Neil Foden dros y blynyddoedd, ac er y bu cydweithio gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill, nid oedd ein ymateb yn ddigon i atal ei droseddu.

“Mae’r Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) yn gam mawr ymlaen er mwyn ein galluogi i ddod i waelod hyn, a byddwn yn croesawu yr argymhellion fydd yn cael eu gwneud. Rydym yn addo gweithredu ar bob argymhelliad fydd yn berthnasol i ni fel cyngor pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi.”


BBC News

Views: 0

See also  Symud o brysurdeb prifddinas i ynys gyda phoblogaeth o 90

Check Also

Dirwy o £500k i gwmni kebab am werthu cig oen oedd yn bennaf yn groen a braster

Dywedodd Reynolds fod anfonebau’n dangos mai ychydig iawn o gig oen oedd yn cael ei …

Hans Obma: Fy nhaith Gymraeg i Gwmderi

“Trwy’r flwyddyn, nes i ddosbarth ar-lein yn y bore. O’n i yn yr Unol Daleithiau …

Balchder, dagrau a golchi dillad! – atgofion gohebu ar Euro 2016

Mewn ychydig ddyddiau fe fydd hi’n ddegawd union ers gêm agoriadol Cymru yn Euro 2016 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
car transport companies. Just a moment.... 429 too many requests.