google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ail berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llangennech

F3cd3410 147b 11f0 aff1 f1386d086010.png

Advertisements

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod ail berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr yr wythnos diwethaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar yr A4138 rhwng cylchfan Llangennech a chylchfan ger yr amlosgfa am oddeutu 22:50 ar nos Fercher 2 Ebrill.

Roedd dau gar yn rhan o’r gwrthdrawiad sef BMW arian a Peugeot 208 du.

Bu farw gyrrwr y BMW o’i anafiadau yn fuan wedi’r digwyddiad, ac mae swyddogion bellach wedi cadarnhau fod gyrrwr y Peugeot wedi marw yn yr ysbyty ddydd Sadwrn, 5 Ebrill.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn galw ar unrhyw un a oedd yn teithio ar ffordd yr A4138 ar y pryd neu sydd ag unrhyw luniau dashcam all fod o gymorth i’r ymchwiliad i gysylltu â nhw.


BBC News

See also  Araith iaith arwyddion cyntaf Palas Buckingham gan Gymraes

Check Also

Alun Wyn Jones yn dychwelyd i’r Gweilch ond nid fel chwaraewr

Mae’r Gweilch wedi cadarnhau y bydd cyn-gapten Cymru, Alun Wyn Jones yn dychwelyd fel aelod …

Rugby brain injuries case: High Court judge allows case to continue

Lawyers acting for those organisations wanted cases involving 377 players in union and 153 in …

Alun Wyn Jones: Former Wales captain returns to Ospreys as board member

Ospreys played amid uncertainty last season when owners Y11 Sports and Media attempted to take …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime