google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html smokeless fireworks,what are f4 fireworks,fireless fireworks,what are f1 fireworks,what are f2 fireworks www.yaoanjituan.com what are f3 fireworks,low noise fireworks,f4 fireworks,cold sparkler wholesale,fireworks for weddings wholesale

Ai etholiad ar annibyniaeth yw hon?

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud o’r blaen na fydden nhw’n cyd-weithio gydag unrhyw blaid, neu’n clymbleidio â nhw, os ydyn nhw’n gwario “ceiniog” ar annibyniaeth.

Yn ymateb i Heledd Fychan ar Politics Wales, dywedodd Rodney Berman: “Mi fyddwn ni’n gweithio gyda phleidiau eraill lle mae hynny’n synhwyrol, ond tydyn ni ddim yn credu y dylai ni fod yn gwastraffu arian hanfodol pan mae’n gwasanaethau cyhoeddus mor brin o bres.”

Dywedodd fod “rhaid i ni ganolbwyntio gyntaf ar gael setliad tecach i Gymru o fewn y DU, ond yn yr hirdymor mae Cymru am fod yn gyfoethocach o fewn y DU”.

Mi fyddai Plaid Cymru’n “gwario arian mae treth dalwyr wedi gweithio’n galed amdano ar annibyniaeth” o fewn eu 100 niwrnod cyntaf, yn ôl Sam Kurtz o’r Ceidwadwyr, “a fyddai’n gwneud Cymru’n dlotach a phobl Cymru’n dlotach”.

Mae llefarydd ar ran Reform UK wedi dweud: “Mae Plaid wedi dweud y bydden nhw’n gweithio tuag at annibyniaeth. Mae hynny yn eu maniffesto mewn du a gwyn.

“Rydym ni’n glir y dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio ar weithredu gwasanaethau cyhoeddus gwell, nid ar wneud pobol Cymru’n dlotach trwy’n rhwygo ni allan o’r Deyrnas Unedig.”

Mae Llefarydd ar ran Llafur Cymru yn dweud y dylai Plaid Cymru “fod yn onest gyda phleidleiswyr”.

“Maen nhw’n honni nad ydyn nhw’n canolbwyntio ar annibyniaeth yn yr etholiad yma ond mae eu maniffesto’n llunio map clir tuag at annibyniaeth. Nawr mae’n rhaid iddyn nhw esbonio’r twyll yma i bobol Cymru.

“Dim ond Llafur Cymru sy’n cynnig sefydlogrwydd, difrifoldeb a gweledigaeth ar gyfer pennod nesaf Cymru gyda’r profiad i’w ddilifro.”

Mae’r Gwyrddion hefyd wedi cael cais i ymateb.


BBC News

Views: 2

See also  Porthmadog: Llys yn gweld fideo o ymosodiad honedig heddwas

Check Also

Cofio Mollie Phillips, yr arloeswraig sglefrio iâ o Gaerfyrddin

Ymddeolodd o gystadlu ddiwedd yr 1930au, ond nid hynny oedd diwedd ei chysylltiad â’r gamp, …

United Rugby Championship: Ospreys aim to pull off mission impossible by reaching play-offs

Ospreys will be led by Wales captain Jac Morgan, while Ross Moriarty returns on the …

United Rugby Championship: Cardiff look to continue play-off bid against Scarlets

Scarlets: Murray; Rogers, James, J Williams, Mee; Hawkins, Blacker; Mathias, Elias, Holz, Lousi, Douglas, Plumtree, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
bluetooth product guides. मणिपुर : जिरीबाम में सीआरपीएफ जवान ने खुद को गोली मारकर की आत्महत्या, जांच जारी.