google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 26 2026

Adolygiad yn cefnogi rheoliadau dadleuol taenu tail

Dywedodd fod y gwaith wedi “dangos bod yna ddyheadau cryf yn cael eu rhannu ar gyfer gwella ansawdd dŵr yng Nghymru”.

“Dwi’n wirioneddol obeithiol y bydd y newidiadau sy’n cael eu hargymell… yn galluogi mwy o weithredu cyffredin a rhannu cyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r heriau,” ychwanegodd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod “ansawdd dŵr yng Nghymru yn dal i gael ei effeithio’n andwyol ac mae’n rhaid parhau i wneud gwelliannau”.

“Er nad yw achosion llygredd yn gyfyngedig i unrhyw un sector, mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn un o’r prif gyfranwyr,” ychwanegodd.

“Mae’r adolygiad yn cytuno â’n hagwedd gyffredinol at y rheoliadau ond mae hefyd yn dangos ffyrdd y gallwn wella pethau i ffermwyr a’n hamgylchedd. Rwy’n bwriadu rhoi’r holl argymhellion hyn ar waith.”

Nododd Llywodraeth Cymru y bydd rhai newidiadau, ynghylch gwneud y rheoliadau’n fwy hygyrch a chliriach, “yn cael eu gweithredu’n gyflym”.

Ond bydd “argymhellion mwy cymhleth sy’n gofyn am arbenigedd gwyddonol ac agronomeg yn cymryd mwy o amser i’w datblygu”, meddai.


BBC News

Advertisements

See also  Welsh rugby crisis: Cardiff used to uncertainty as Y11 takeover deadline looms

Check Also

Burnham yn diystyru rhoi pwerau i gynnal refferendwm annibyniaeth i Gymru

Bydd Burnham yn annerch ei gynhadledd Lafur cyntaf fel Prif Weinidog yr wythnos nesaf, ac …

Netball World Cup: Northern Ireland shock Wales 50-49 in qualifier

Northern Ireland fought from behind to claim a shock 50-49 win over Welsh Feathers in …

Andy Burnham rules out giving Wales independence referendum powers

The prime minister has ruled out handing powers to hold a referendum on independence to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime