google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Adeiladu safle cynhyrchu hydrogen newydd yn Sir Benfro

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd ac mae’n wych gweld prosiect Hydrogen Gorllewin Cymru ymhlith y cyntaf yn y DU i gyrraedd y cam hwn, gyda chefnogaeth llywodraeth y DU.

“Mae hon yn garreg filltir enfawr wrth gyflawni’r prosiect, a fydd yn creu swyddi ac yn helpu i dyfu economi Cymru.”

Dywedodd Gweinidog Ynni llywodraeth y DU, Michael Shanks: “Ry’n ni’n cefnogi hydrogen oherwydd ei fod yn hanfodol wrth ddadgarboneiddio diwydiant, gyrru buddsoddiad, hybu ein diogelwch ynni a chreu cannoedd o swyddi yn ein cadarnleoedd diwydiannol.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos sut mae Cymru’n cofleidio trawsnewid i ynni glân, gydag un o’r safleoedd cynhyrchu hydrogen carbon isel masnachol cyntaf y DU. (Bydd hyn) yn creu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol.”

Dywedodd Werner Lieberherr, Prif weithredwr MorGen Energy, ei fod yn garreg filltir i’r cwmni a sector hydrogen y DU.

Ychwanegodd ei fod yn dangos bod modd cyflawni prosiectau hydrogen gwyrdd yn y DU fel “buddsoddiadau dibynadwy”.

“Ry’n ni’n ddiolchgar am gefnogaeth gref llywodraeth y DU,” meddai Mr Lieberherr “yn enwedig yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero, a’n partneriaid, ac edrychwn ymlaen at ddechrau adeiladu a chyflenwi hydrogen i’n cwsmeriaid o 2028.”


BBC News

Advertisements

See also  'Dim geiriau i ddisgrifio' effeithiau ymosodiad gan gi ar ŵyn bach

Check Also

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Dolly Parton i ymddangos ar fersiwn newydd o Jolene – yn Gymraeg

Mae’r fideo hefyd yn dangos Jada gyda Dolly yn cytuno i ganu ar y trac, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime