google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Addysgu cenhedlaeth TikTok am waith Dylan Thomas

Mae Anna Jones, athrawes Saesneg yn Ysgol y Strade, yn cytuno dylid gwneud mwy i addysgu plant am y bardd.

“Mae dysgwyr yn ofni cerddi os dwi’n onest. Mae’n hynod o bwysig i fi ein bod ni yn cael cymysgedd felly ein bod ni yn cael rhywun fel Dylan Thomas ar y cwricwlwm,” meddai.

Ychwanegodd y byddai’n ystyried cynnwys mwy o’i waith mewn gwersi “yn enwedig nawr gyda’r newidiadau a Chwricwlwm i Gymru”.

Mae’r ysgol wedi ychwanegu un o ganeuon Swift, Cardigan, at gwricwlwm blwyddyn 9.

Fe ddywedodd Anna Jones: “Rwy’n Swiftie fy hun a fi’n rili falch eu bod nhw’n mwynhau.

“Fel arfer maen nhw’n clywed ein bod ni’n neud cerddi a dyw’r ymateb ddim yn wych bob tro.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Wrth ddewis llenyddiaeth i’w hastudio, byddem yn annog ysgolion i wneud dewisiadau priodol sy’n cydbwyso hyd a lled y cwricwlwm ag anghenion eu dysgwyr.”


Source link

Advertisements

See also  Dur: 'Trin Cymru yn wahanol yn ddim llai na brad'

Check Also

Vitor Matos’ Swansea City like Jurgen Klopp’s Liverpool – Blackburn boss Tony Mowbray

Swansea’s triumph means they are second in the Championship, with 26 points banked from their …

Cate McHugh wins The Voice UK after starting her career busking in Cardiff

A singer who began her career as a teenager busking on the streets of Cardiff …

Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llandudno

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Llandudno. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime