google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Addasiadau’ eleni yn sgil hinsawdd ariannol ond mae’n ‘Steddfod sbeshal’

Advertisements

Mae amseriad yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni yn “berffaith” yn ôl Llywydd yr Ŵyl, yr actor Marc Lewis Jones.

Wrth siarad ar ddiwrnod cyntaf y Brifwyl yn Is-y-Coed ar gyrion stad ddiwydiannol y ddinas, dywedodd Mr Jones bod ymweliad yr Eisteddfod ar gyfnod pan mae’r clwb pêl-droed yn creu enwogrwydd ar draws y byd yn “sbeshal”.

Wedi serennu mewn ffilmiau Hollywood a llawer o gyfresi teledu llwyddiannus, cafodd Jones ei fagu ym mhentref Rhosllannerchrugog, sydd i’w weld, yn ôl yr actor, o’r Maes.

“Pan o’n i’n tyfu fyny, oedd Rhos yn lle Cymreig, celfyddydol. Oedd ‘na lot o gorau, oedd ‘na’r Stiwt, lle oedd ‘na lot o ffilms yn cael eu dangos.

Oedd ‘na aelwyd yn perfformio. Yna es i i Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam.” meddai Mr Jones.

“Oedd yr ardal yn teimlo bod ni’n lwcus iawn er bod ni mor agos at y ffin, bod ‘na gymaint o Gymraeg.

“Ac yn Rhos yn arbennig, bod ‘na dafodiaith Rhos. So oedden ni’n teimlo bod ni bach yn sbeshal rili, yn ngogledd ddwyrain Cymru.

“Mae ‘di newid lot so mae cael y ‘Steddfod yn ôl yn sbeshal.

“Mae’n anhygoel yr effaith mae’r clwb pêl-droed wedi ei gael ar yr ardal a’r gydnabyddiaeth mae’r rhaglen wedi ei chael dros y byd, mae hwnna’n effaith positif iawn ar yr ardal. Ac oedd o ei angen hefyd.

“So mae cael y ‘Steddfod yma, mae’r timing yn berffaith achos mae cael ein hatgoffa pa mor bwysig ydy’r celfyddydau Cymraeg i’r ardal hefyd yn beth sbeshal.”


BBC News

Views: 0

See also  Report as schoolgirl, 14 is sentenced

Check Also

Cyn-AS Ceidwadol o Gymru yn pledio’n euog i drosedd gamblo ar ddyddiad yr etholiad

Pan ddaeth y sgandal i’r amlwg gyntaf, fe wnaeth Williams gyfaddef iddo wneud “camgymeriad enfawr” …

Galw ar Andy Burnham i ‘weithredu’n wahanol i’w ragflaenwyr’ ar ddatganoli

Mae llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick hefyd yn galw am fwy …

Welsh football bosses reveal cost to improve facilities

The FAW-backed review saw local clubs and local authorities – and other sporting bodies – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
power only alaska. heavy equipment transport orange county fl.