google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

A fydd llai o gerddorion ac actorion proffesiynol yng Nghymru?

Cymru bellach yw’r unig wlad yn y DU heb raglen conservatoire i blant a phobl ifanc a hynny wedi i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yng Nghaerdydd roi’r gorau i gynnal sesiynau canu ac actio i bobl ifanc yn sgil heriau ariannol sylweddol.

Y rhaglen oedd yr unig un o’i fath yng Nghymru. Roedd yn darparu hyfforddiant a chyfle i berfformwyr ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym myd cerddoriaeth a drama proffesiynol.

Mae ‘na bryderon y bydd llai o gantorion ac actorion proffesiynol yng Nghymru o ganlyniad i’r penderfyniad ond mae’r Coleg Cerdd a Drama yn mynnu nad oedd ganddynt ddewis arall yn sgil costau gweithredol cynyddol.

Maen nhw hefyd yn dweud bod yna ddiffyg cydraddoldeb mewn cyllid o’i gymharu â conservatoires eraill y DU.

Dywedodd Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch fod “pob sefydliad yn gyfrifol am reoli ei gyllideb ei hun, sy’n cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru ynghyd â ffynonellau incwm eraill”.

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi addysg cerddoriaeth, ac mae’n ariannu’r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol gyda buddsoddiad sylweddol, cyfanswm o £13 miliwn rhwng 2022 a 2025”.


Source link

See also  Zahra Errami: 'Cyffuriau wedi bod o amgylch fi ers fy arddegau'

Check Also

James Taylor aims to make Wales a force in deaf football

Wales – like England – are hoping to send a squad to compete in the …

Cyflwr iechyd plant Cymru yn ‘frawychus ac yn gwaethygu’

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae iechyd plant yn bwysig ofnadwy, a byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad …

‘Siawns am beint?’: Atgofion magwraeth yn nhafarn C’mon Midffîld

Mae C’mon Midffîld yn rhan o hanes y pentref, a dyna o bosib fydd tynged …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime