google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwpl o Gaerdydd yn gadael ‘bywyd prysur a chyffrous’ i ffermio ar Ynys Enlli

Mae’r heriau y bydd y cwpl yn eu wynebu yn eu bywyd newydd ar yr ynys yn rhan o’r apêl, yn ôl Gwyndaf.

“Byw ar ynys hefo dim ond pedwar o bobl, yn amlwg ti am gael lot o amser i feddwl. Fydd hi’n dipyn o newid i gael yr amser tawel a gwario’r amser efo’r môr, yr adar a’r anifeiliaid,” meddai.

“‘Da ni’n edrych ymlaen i weld sut fydd bywyd ar ynys fach – pan ‘da ni’n ganol storm, yn ganol gaeaf, ‘da ni’n edrych ymlaen i fyw trwyddo fo.

“‘Da ni isio gweld os allwn ni wneud o ac os yda ni am fwynhau o – da ni’n gobeithio bod ni, gawn ni weld.”

Ychwanegodd Georgina: “Mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o ymweld ag Enlli yn gwybod pa mor arbennig ydi’r ynys.

“Mae blynyddoedd o adrodd ar faterion natur, gwyddoniaeth a hinsawdd ar hyd a lled y byd wedi dysgu i ni pa mor hanfodol ydi diogelu’n byd naturiol.

“Rydw i yn edrych ymlaen at gael mynd ati i weithio ac i helpu i warchod amgylchedd mor unigryw.

“Bydd bywyd ar ynys fechan, heb gysylltiad â’r grid yn dod â’i heriau, ond roedd y cyfle i ymuno â chymuned Gymraeg fel un Enlli, a gweithio i sicrhau bod yr adar a’r anifeiliaid yn ffynnu am flynyddoedd i ddod, yn rhywbeth nad oedden ni yn gallu ei wrthod.”


BBC News

Advertisements

See also  Arestio dyn mewn ymchwiliad llofruddiaeth wedi 30 mlynedd

Check Also

Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 0-1 Denmarc

Roedd angen ymateb chwim gan Ethan Ampadu reit ar ddechrau’r ail hanner i atal rhediad …

Cardiff woman says damp flat is ‘rotten’ after building fire

Photographs appear to show mould in the kitchen and bedrooms. Ban said: “This is my …

Elite League: Cardiff Devils 2-1 Glasgow Clan

Cardiff Devils completed a successful opening weekend of the Elite League season with a narrow …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime