google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Undebau’n beirniadu cynnig codiad cyflog i athrawon Cymru

Mae undebau addysg wedi beirniadu’r penderfyniad i beidio cyd-fynd ag awgrym y corff annibynnol.

Dywedodd undeb penaethiaid NAHT Cymru: “Sefydlwyd y corff adolygu i ddarparu cyngor annibynnol, arbenigol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ynghylch recriwtio, cadw, llwyth gwaith a’r heriau ehangach sy’n wynebu’r gweithlu addysg.

“Os yw gweinidogion yn barod i anwybyddu’r cyngor hwnnw pan fydd yn anghyfleus, yna mae’n gwbl resymol gofyn beth yw pwrpas y broses.”

Ychwanegodd undeb NEU Cymru eu bod yn “croesawu codiad cyflog i athrawon”, ond nid un is na’r hyn oedd yn cael ei awgrymu.

“Ar yr olwg gyntaf, gallai’r dyfarniad eleni ymddangos yn gadarnhaol o’i gymharu â Lloegr, gan nad oes gofyn i ysgolion yng Nghymru ddod o hyd i 1%.

“Yn ymarferol, fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad hwn yn llawer rhy isel.

“Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis anwybyddu argymhelliad CACAC drwy gyhoeddi dyfarniad sy’n is na’r ffigwr o 4.25% a nodwyd yn eu hadroddiad.”

Mae Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru hefyd wedi beirniadu’r llywodraeth am “gamu i ffwrdd o broses sy’n canolbwyntio ar Gymru, a dewis dilyn Lloegr”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Côr bechgyn Ysgol Glantaf yn serennu ar Britain's Got Talent

Check Also

‘Oglau llosgi mawr’ wrth i dân barhau a phobl leol yn ‘bryderus’

Dywedodd Anthony Jones o’r gwasanaeth tân eu bod wedi cael eu galw am 02:15 fore …

Cannoedd ar restrau aros colegau addysg bellach – ‘dydy o ddim yn deg’

Mae Colegau Cymru, sy’n cynrychioli colegau addysg bellach, wedi dweud bod y sector yn wynebu …

Uefa Men’s Under-19 Championship: Wales to profit from ‘massive’ hosting legacy

On the pitch, it proved to be a tough tournament for Chris Gunter’s Wales side …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Shane black suede bomber jacket. furnished bunglow deep cleaning service (upto 1200 sqft ). The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.