google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pwy sy’n cofio Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004?

Advertisements

Alwen Jones o Amlwch oedd ysgrifennydd y pwyllgor gwaith ar gyfer yr Eisteddfod yn 2004.

A dyma sy’n aros yn y cof iddi hi.

“Un o fy swyddi, a be’ dwi’n cofio fwyaf, oedd tywys llywyddion y dydd o amgylch. Oedd ‘na Lywydd y Dydd, gwahanol rai bob dydd.

“Dwi’n cofio tywys Gwyn Hughes Jones. Roedd o wedi cynnal cyngerdd ar y nos Sul ac mi oeddwn i’n ei dywys ar y dydd Llun, a dau gam, ac roedd ‘na rywun yn ein stopio ni!

“Mi gymrodd o oria’, pobl yn ei longyfarch o.

“Un arall dwi’n cofio cymryd o gwmpas oedd Iwan Llywelyn Jones o Amlwch ac wrth gwrs roeddwn i’n ‘nabod o hefyd.

“Be’ dwi’n gofio ‘efo fo – mynd i babell a phrynu crys-t a gofyn i mi ddewis pa grys-t iddo fo wisgo…”

Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Alwen ei bod hi’n “cofio gweld Iwan ar ryw raglen deledu wrth ymyl ei biano mawr yn ei gartref yn Llundain a’r crys-t ‘ma amdano fo, a fi ddudodd wrtho fo am brynu hwnna!”


BBC News

Views: 2

See also  Disgwyl llai o'r graddau TGAU uchaf yng Nghymru

Check Also

Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro am ‘gamdriniaeth’ mewn uned addysgol

Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: “Dylai pob plentyn a pherson ifanc fod yn ddiogel …

Lliw, steil a dathlu: Pride Cymru yn llenwi strydoedd Caerdydd

Daeth torfeydd enfawr i Gaerdydd dros y penwythnos i ddathlu gŵyl flynyddol Pride Cymru. Roedd …

Olivia Rodrigo 'had to eat sausage rolls all day' in Welsh town

The pop superstar says she could not get her credit card to work anywhere outside …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
real estate consultant contact coconut point residences. We analyse your agro nuts as if it were our own. Just a moment....