google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Cost canser yn bwysau mawr’ – teuluoedd yn gofyn am gostau teithio

Advertisements

Cafodd Daisy, 18 oed o Ynys Môn, ddiagnosis o Hodgkin lymphoma cam dau pan oedd yn 17.

“Roedd o just fel bom ar fy mywyd i,” meddai.

“O’n i’n gwneud pob dim trwy’r wythnos – mynd i’r gampfa, mynd i’r ysgol, mynd i glwb ffermwyr ifanc – pob dim. Ac wedyn oedd o just fel bod popeth wedi stopio.”

Ar ôl profi poen yn ei hasennau am wythnosau a sawl ymweliad â meddygon, dim ond ar ôl sganiau a biopsi ddaeth y diagnosis.

“O’n i just ‘efo poen yn fy ribs ac o’n i’n meddwl bo’ fi wedi gwneud rhywbeth yn y gampfa, ond oedd o ddim yn mynd ac oedd o wedi bod dros dair wythnos.

So ‘nes i fynd at y meddyg teulu a ‘na’th o ddweud bo’ fi wedi gwneud rhywbeth yn y gampfa.”

Dim ond ar ôl i’w chyflwr waethygu y cafodd ei hanfon am brofion pellach.

“Nes i orffen fyny yn A&E ‘efo’r inflammatory markers i fyny, pob dim i fyny, a ‘nathon nhw fyth gael rheswm am beth oedd yn digwydd.

“Wedyn, ‘nathon nhw ffeindio lwmp bach yn fy ngwddf i… nathon nhw fy ngyrru i gael biopsi ac wedyn ffeindio allan bo’ fi ‘efo canser.”


BBC News

Views: 0

See also  Euro 25: Canlyniad poenus ond cefnogwyr balch ar ddiwedd taith Cymru

Check Also

Graduate 'ghosted' by employers has applied for 400 jobs and had only three interviews

The term ghosting is common in the dating world – but job applicants are increasingly …

Plaid and Reform 'neck-and-neck' and Cardiff City gets £15K fine

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

‘Byddai cam-drin yn codi’n sydyn gyda mwy o oriau o ofal plant am ddim’

Mae rhoi mwy o oriau o ofal plant am ddim i rieni wedi dod yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime