google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Gwenllian Anthony

Gwenllian AnthonyFfynhonnell y llun, Gwenllian Anthony

Un traean o’r grŵp Adwaith yw’r basydd Gwenllian Anthony. Mae’r grŵp o Gaerfyrddin (sydd hefyd yn cynnwys Hollie Singer yn canu a chwarae’r gitâr a Heledd Owen ar y drymiau) yn mynd o nerth i nerth.

Fe gymrodd Gwenllian saib o’i hamserlen brysur yn gigio ac yn hyrwyddo eu record hir ddiweddaraf, Solas, i ateb cwestiynau Cymru Fyw.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Un o atgofion cyntaf fi yw gwylio rhyw ffilm yn Meithrin (ar y wheelie TV stand wrth gwrs) ac yn esgus cysgu, so allai mynd mewn i’r cozy cwtch i chwarae… nath e ddim gweithio.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Mae’r cwestiwn ‘ma rhy galed. Dwi’n caru Barafundle ar ddiwrnod braf, yn enwedig cerdded o Barafundle i Bosherston.

Bosherston Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y dail lili ysblenydd sydd i’w gweld wrth gerdded o fae Barafundle i Bosherston, Sir Benfro

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Aethon ni allan yn Austin ar ôl chwarae yn SXSW [gŵyl gerddoriaeth yn Texas] a dwi’n meddwl mai hwnna oedd un o’r nosweithiau gorau dwi ‘di cael. Aethon ni allan gyda dau berson random natho ni gwrdd yn yr ŵyl, a mynd i’r bar bucking bronco.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Penderfynol, cerddorol, sili.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Mae meddwl am chwarae ar lwyfan The Park yn Glastonbury wastad yn gwneud i fi wenu. Dream come true go iawn!

Adwaith ar lwyfanFfynhonnell y llun, Gwenllian Anthony
Disgrifiad o’r llun,

Adwaith yn chwarae ar lwyfan The Park yng ngŵyl Glastonbury

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Wnaeth trwser fi gwympo lawr achos nath yr elastig torri yng nghanol set ni ym Mryste o’r blaen. Oedd rhaid i fi neud gweddill y sioe yn sefyll gyda wide stance.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grïo?

Nes i grïo yn gig ni ym Methesda (8 Chwefror 2025) oherwydd wnaeth rhywun o Fryste danfon fan mail i ni yn gweud faint mor bwysig yw’r band a’n cerddoriaeth i fe. Odd e’n ddydd emosiynol iawn!

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Think Like a Monk gan Jay Shetty. Although fi’n meddwl bod e bach yn dodgy character, nes i rili joio beth oedd e’n siarad am a nath e newid outlook fi ar bywyd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Dave Datblygu. Fi moyn gwybod beth bydde fe’n gweud am albwm newydd ni!

Dave DatblyguFfynhonnell y llun, Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Gwenllian sgwrsio dros ddiod gyda David R. Edwards

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ar hyn o bryd, dwi’n astudio Archaeoleg yn y brifysgol.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bydden i’n bwyta llawer, a mynd i nofio yn y môr!

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Llun ohonom ni ar y ffordd i Black Bay Studios yn yr Outer Hebrides i recordio Solas.

Adwaith ar gwchFfynhonnell y llun, Gwenllian Anthony
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian a’r band ar eu ffordd i recordio eu halbym Solas ar un o ynysoedd yr Hebrides Allanol

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Beyoncé, so allai neud unrhywbeth fi moyn am ddiwrnod.


BBC News

Views: 0

See also  Archif i ddathlu diwrnod cenedlaethol Llydaw

Check Also

Marnus van der Merwe: Scarlets made Springbok dream come true for hooker

Van der Merwe says the challenge of testing himself in a new environment helped him …

Man, 77, slapped traffic warden and threatened to 'lump' her

Stephen Doughty became abusive after struggling to use a pay-and-display machine. BBC News Views: 0 …

Wales' giant constituency tests the Senedd's big parties

Getting the vote out across Brycheiniog Tawe Nedd – a 1,370 square mile constituency – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime