google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Awdur The Salt Path wedi ysgrifennu llyfr cudd yn gyntaf, er iddi honni ei bod yn awdur tro cyntaf

Advertisements

Roedd Winn wedi ysgrifennu llyfr a gafodd ei gyhoeddi gan eu cwmni yn 2012.

Mewn datganiad ar-lein, dywedodd: “Roedden ni mewn cyfyng gyngor, ac am gyfnod byr fe geision ni gynnal raffl a chynnig tŷ fel gwobr fel mae pobl eraill wedi’i wneud, ond fe sylweddolon ni’n gyflym bod hynny’n gamgymeriad.”

Cafodd cwmni cyhoeddi Gangani ei sefydlu ym mis Mawrth 2012, wedi’i gofrestru mewn ystâd ddiwydiannol ar gyrion Bangor.

Yn ôl cofnodion Tŷ’r Cwmnïau, Tim Walker yw’r cyfarwyddwr, ac mae Sally Walker yn un o’r cyfranddalwyr – dyna enwau cyfreithiol Moth a Raynor Winn, oedd yn byw ger Pwllheli ar y pryd.

Mae’n ymddangos mai dim ond un gyfrol mae Gangani Publishing wedi’i chyhoeddi, sef How Not to Dal Dy Dir, gan awdur o’r enw Izzy Wyn-Thomas.

Yr amcangyfrif yw mai dim ond ychydig o gopïau o’r gyfrol gafodd eu cyhoeddi, ac mae’n anodd cael gafael arnyn nhw.

Yn ôl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, hwn oedd yr unig lyfr i Izzy Wyn-Thomas ei gyhoeddi.

Mae’r broliant ar-lein yn dweud bod y gyfrol yn “nofel â hiwmor tywyll, yn tynnu llinyn trwy fywydau ffermwyr o Gymru, cyfrifwyr o’r ddinas, perchnogion gwestai Indiaidd a mamau Eisteddfodol”.


BBC News

Views: 1

See also  Lle mae'r ardaloedd mwyaf a lleiaf fforddiadwy i brynu tŷ yng Nghymru?

Check Also

Meddygfa’r Sarn yn Sir Gaerfyrddin i aros ar agor am y tro

Y bwriad oedd y byddai cleifion yn cael eu gwasgaru i Feddygfa Nant y Glo …

Dyn yn euog o drefnu saethu menyw yn ne Cymru o’i gell yn y carchar

Mae dyn a oedd eisoes yn y carchar am lofruddiaeth wedi’i gael yn euog o …

Lois Medi yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd am yr eildro

Lois Medi o Wynedd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Start growing your traffic with our automated ad infrastructure.