google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Swyddogion wedi rhybuddio nad oes digon o dystiolaeth i wahardd rasio milgwn

Advertisements

Mae grwpiau lles anifeiliaid yn mynnu bod y gamp yn cael ei gwahardd, gan ddweud ei fod yn beryglus a bod miloedd o filgwn wedi marw yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i rasio yn y Deyrnas Unedig.

Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda gwaharddiad fel rhan o’r cytundeb gyda’r Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds i basio eu cyllideb y llynedd.

Dim ond un trac sydd yng Nghymru – Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach.

Wrth roi cyngor i Huw Irranca-Davies, roedd swyddogion yn rhagweld bod ‘na “risg uchel” y gallai’r ddeddfwriaeth gael ei herio yn y llysoedd.

Fe gafodd cais Bwrdd Milgwn Prydain am adolygiad barnwrol ei glywed yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl dyfarniad ymhen ychydig wythnosau.

Mae Bwrdd Milgwn Prydain yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu â chynnal ymgynghoriad yn gyfreithlon ac maen nhw’n gobeithio gallu diddymu’r gwaharddiad, hyd yn oed os caiff ei basio yn y Senedd.

Fe wnaeth yr ysgrifennydd materion gwledig gyhoeddi’r polisi ar 18 Chwefror 2025, ddiwrnod ar ôl iddo dderbyn y cyngor gan y gwasanaeth sifil.


BBC News

Views: 2

See also  Community bid to buy Cwm Rhondda chapel accepted

Check Also

Dylan Lawlor: Wales defender ‘wasn’t expecting’ breakthrough season at Cardiff City

Wales defender Dylan Lawlor thought he would have to leave Cardiff City to make his …

Gwleidydda: Dadansoddi Y Ddadl Fawr

Alun Thomas, Bethan Rhys Roberts a’r Athro Richard Wyn Jones sy’n cnoi cil o’r Ddadl …

Y Ddadl Fawr: Iechyd, costau byw a mwy o bwerau ymhlith y pynciau

Yn ystod y ddadl o bencadlys S4C yn yr Egin yng Nghaerfyrddin, cafodd Morgan ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime