google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

BBC yn tynnu’n ôl o gynhyrchu Clwb Rygbi i S4C o ddiwedd y tymor

Advertisements

Eglurodd BBC Cymru fod costau’r datblygiadau newydd ar iPlayer yn golygu y bydd yn cynhyrchu llai o gynnwys teledu ar gyfer S4C o fis Medi ymlaen.

Dywedodd bod y bartneriaeth, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn golygu y bydd cynnwys Cymraeg S4C yn ymddangos yn amlach ar hafan iPlayer yng Nghymru, gyda rhai rhaglenni mawr yn cael eu hyrwyddo ledled y DU am y tro cyntaf.

Ychwanegodd BBC Cymru, er mwyn ariannu’r newidiadau hyn o fewn y gyllideb bartneriaeth strategol, bydd y BBC yn dod â’i gyfraniad i rai cynyrchiadau i ben, gan gynnwys darllediadau rygbi byw’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Ar hyn o bryd mae’r BBC yn darparu o leiaf 520 awr o raglenni i S4C bob blwyddyn fel rhan o’i gytundeb, ond bydd hynny’n lleihau o ganlyniad i’r newidiadau.

Bydd BBC Cymru yn parhau i gynhyrchu rhaglenni gan gynnwys Pobol y Cwm, darllediadau’r Eisteddfod Genedlaethol a chynnwys newyddion.

Deellir na fydd y broses gomisiynu newydd ar gyfer Clwb Rygbi yn effeithio ar gyfresi rheolaidd eraill S4C.

Dywedodd S4C mewn datganiad y bydd “yn cynnal proses dendro ar gyfer blwyddyn o hawliau darlledu sy’n parhau o dan gontract y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, gan wahodd cwmnïau cynhyrchu annibynnol i wneud cais tendro”.


BBC News

Views: 2

See also  John Lennon and Yoko Ono holiday hotel set for demolition

Check Also

Losing my leg elevated my life, says world surfing champion

He works as a digger driver in the family construction business when not surfing. “I’ve …

World Matchplay darts 2026 results: Luke Littler defends title and smashes Phil Taylor’s average record

Luke Littler defended his World Matchplay title in sensational style and smashed Phil Taylor’s tournament …

Achub dau oedd yn trio hedfan drôn dros dân gwyllt yn Eryri

Ddydd Sadwrn, dywedodd Tîm Achub a Chwilio De Eryri fod dau berson wedi “mynd i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
» sex porn niches.