google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Athletwyr benywaidd yn derbyn negeseuon ‘rhyfedd a sarhaus’ ar-lein

Advertisements

Mae’r chwaraewr rygbi Georgia Evans wastad wedi gwisgo colur a rhubanau pinc yn ei gwallt tra’n chwarae – rhywbeth mae’n dweud sy’n helpu iddi anghofio am y camerâu sy’n ei dilyn ar y cae.

Er bod chwarae yng Nghwpan y Byd yn “freuddwyd” iddi, bu’n rhaid i Georgia rannu datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl derbyn negeseuon cas am ei hedrychiad, gyda rhai yn awgrymu mai dyna’r rheswm roedd y tîm yn colli.

“Oedd e ddim jest am ruban mawr pinc yn fy ngwallt, roedd e am y colur o’n i’n gwisgo, a sut o’n i’n trin o fel ‘sioe ffasiwn’.

“Dwi ‘di gweithio drwy fy mywyd i gyrraedd y lefel uchaf o rygbi, a nawr mae hynny’n cael ei gwestiynu oherwydd bo’ fi’n gwisgo rubanau pinc yn fy ngwallt.

“Does gan y ffordd dwi’n edrych ddim byd i’w wneud gyda’r ffordd dwi’n chwarae.”

Ar ôl iddi rannu’r datganiad yn amddiffyn ei hun, fe wnaeth Georgia dderbyn cefnogaeth gan bobl “ar draws y byd.”

“O fewn awr, o’dd rhaid i fi roi fy ffôn i ffwrdd achos o’n i methu delio â’r peth,” meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Etholiad cyffredinol 2024: Pwy sy'n sefyll yn fy etholaeth i?

Check Also

Bridge linking Wales and England partly reopens – but will shut again if it gets too hot

The bridge is an important link between communities on the Welsh and English sides of …

Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod y Garreg Las

Daw’r coed ar gyfer y Gadair eleni, ynghyd â’r defnydd ar gyfer y glustog a …

County Championship: Cooke ton rescues Glam after Surrey strike

A ceremony before play began saw the National Cricket Centre renamed in honour of Hugh …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
cassinox mobil uygulama.