google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn, 29, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar Ynys Môn

Advertisements

Mae dyn 29 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Ynys Môn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig ar ôl 06:45 fore Sul i’r A5025 ger Pentraeth.

Yn ôl adroddiadau roedd dau gar wedi taro ei gilydd – Peugeot 208 llwyr ac Audi A5 Quattro aur – ar Ffordd Pentraeth rhwng Pen-Y-Garnedd a safle Pentraeth Automotive.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod gyrrwr y Peugeot wedi marw yn y fan a’r lle a bod ei deulu wedi cael gwybod.

Cafodd gyrrwr y car arall – dyn 22 oed – anafiadau difrifol ac mae wedi cael ei gludo i’r ysbyty.

Mae’r heddlu eisiau clywed gan unrhyw un a deithiodd ar hyd yr A5025 o gwmpas 06:30 fore Sul, a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu’n gallu cynnig lluniau dash cam perthnasol.

Gan gydymdeimlo â theulu’r dyn a fu farw “ar yr adeg hynod anodd yma”, dywedodd y Ditectif Sarjiant Katie Davies o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol y llu:

“Gall unrhyw wybodaeth, waeth pa mor ddibwys, bod yn hanfodol i’r ymchwiliad.”


BBC News

Views: 2

See also  URC: Scarlets 'have to back it up' against Benetton

Check Also

Tyson Fury v Anthony Joshua: Principality Stadium keen to stage all-British bout

Cardiff’s Principality Stadium has hosted late night boxing before, including Joe Calzaghe’s fight with Mikkel …

‘Colled enbyd’ – Teyrnged teulu wedi marwolaeth gyrrwr ar yr A40

Mae teulu dyn 38 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng ei fan a bws …

‘Labour’s call’ to pass Welsh budget, says first minister

In response Huw Thomas said the offer was not enough. “As it stands we will …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Henectus tincidunt caravan sales. Best choice products 41in full size beginner all wood acoustic guitar ….