google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd

Advertisements

Mae’n gyfnod ansicr i’r gêm yng Nghymru, gydag URC yn cyhoeddi ym mis Hydref 2025 eu bod yn bwriadu rhoi tair trwydded i glybiau proffesiynol y dynion.

Bydd un yng Nghaerdydd, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.

Gallai hynny fod wedi arwain at frwydr i oroesi rhwng y Gweilch o Abertawe a’r Scarlets yn Llanelli, cyn i opsiwn ddod i’r amlwg o Y11 yn prynu Caerdydd.

Mae URC ac Y11 wedi gwrthod gwneud sylwadau ar y posibilrwydd, gan danio ofnau cefnogwyr y Gweilch o ran dyfodol y tîm.

Mae cefnogwyr Caerdydd hefyd wedi dweud wrth URC nad ydyn nhw eisiau i berchnogion y Gweilch brynu eu tîm.

Mae prif weithredwr URC, Abi Tierney, a’r cadeirydd, Richard Collier-Keywood, wedi cael eu galw i’r Senedd yn Llundain ddydd Mercher i roi tystiolaeth i wleidyddion Cymru ar ddyfodol rygbi Cymru.

Mae disgwyl iddyn nhw gael eu holi ar y mater yno.

Cafodd cynrychiolwyr o grwpiau cefnogwyr Caerdydd, y Gweilch, y Scarlets a’r Dreigiau, hefyd wahoddiad i roi eu barn i’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.


BBC News

See also  Women's Rugby World Cup 2025: Wales need to play with smiles on faces - Cox

Check Also

Codi pryderon am ‘wthio llwyfan digidol S4C Clic i’r ymylon’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon am ddyfodol gwasanaeth digidol S4C Clic. Yn …

North Wales Police officer who punched suspect 9 times in head faces misconduct hearing

A police officer who punched a suspect nine times in the head used unreasonable force …

Pontypool-born actor Luke Evans survived Hollywood by listening to actors he admired

Actor Luke Evans said he has survived Hollywood by “watching and listening” to actors he …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime