google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Agwedd Ysgrifennydd Cymru at yr iaith Gymraeg yn ‘ddeinosoraidd’

Advertisements

Mae IPSA, yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, wedi dweud wrth y BBC ei fod yn “sicrhau bod cyllid ar gael i ASau sy’n dymuno cyfieithu deunyddiau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg”.

“Nid oes terfyn ar faint o gyllid sydd ar gael; fe’i dosbarthir fel taliad wrth gefn ac mae ar wahân i gostau swyddfa a chyllidebau staffio ASau,” meddai IPSA.

Roedd Jo Stevens hefyd wedi dweud yn yr e-bost mai “Saesneg yw iaith waith Senedd y DU”.

Dywedodd llefarydd ar ran Senedd y DU wrth y BBC: “Caniateir defnyddio’r Gymraeg ym mhob pwyllgor dethol a’r uwch-bwyllgor Cymreig.”

“Yn unol â’r safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, nod y Senedd o ran defnyddio’r Gymraeg yw sicrhau nad yw siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na siaradwyr Saesneg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

“Er enghraifft, mae siaradwyr Cymraeg yn gallu anfon ymholiadau i Dŷ’r Cyffredin yn y Gymraeg a derbyn ymatebion yn y Gymraeg.”

Mae polisi iaith Gymraeg Senedd y DU hefyd yn cwmpasu darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i ymwelwyr, ysgolion a grwpiau cymunedol.


BBC News

Views: 0

See also  Football fan, 105, given matchday birthday treat

Check Also

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Roedd yr haul yn gwenu’n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn …

Man arrested as five people injured in crash

Three of the five were seriously injured and the arrested man is in custody. BBC …

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.