google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Babi naw mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad ci

Advertisements

Mae babi naw mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad ci yn Sir Fynwy.

Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi “derbyn adroddiad o ymosodiad gan gi” mewn tŷ yn ardal Crossway ym mhentref Rogiet, ger Cil-y-coed tua 18:00 nos Sul.

Fe gafodd swyddogion heddlu a pharafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans eu hanfon i’r cyfeiriad, ble y cadarnhawyd bod babi naw mis oed wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae’r ci wedi cael ei symud o’r eiddo, medd y llu, sy’n apelio am wybodaeth.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd John Davies: ” Rydym yn deall y bydd yna bryderon ynghylch y digwyddiad yma, ond mae swyddogion yno’n bresennol ac fe fyddan ni gwneud rhagor o ymholiadau wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.”

“Os oes gyda chi bryderon neu wybodaeth, dewch atom er mwyn siarad â ni.”


BBC News

Views: 0

See also  Amazon rainforest world-first for adventurer Ash Dykes

Check Also

GP contracts worth £10m awarded without proper checks

An Audit Wales investigation found the health board failed to carry out proper due diligence …

Diogelu rhag troseddau ‘yn mynd ymhellach na giât at y fferm’

Mae pobl mewn ardaloedd cefn gwlad yr un mor debygol o ddioddef troseddau seibr â …

Ospreys close to signing the WRU’s new PRA deal – Lance Bradley

Ospreys have announced work on the redevelopment of St Helen’s stadium in Swansea will begin …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime