google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Esgob yn gwybod am honiadau o gamymddwyn rhywiol ers blynyddoedd

Advertisements

Mewn datganiad i’r BBC mae’r Eglwys yng Nghymru’n dweud iddyn nhw gwblhau ymchwiliad mewnol i’r ymateb i gwyn Alisdair Adams fod Anthony Pierce wedi ymosod yn anweddus arno ganol yr 80au.

Maen nhw’n cadarnhau i’r gwyn gael ei phasio ymlaen i’r Esgob Vaughan ac mai dyna oedd y drefn ar y pryd.

Maen nhw’n dweud hefyd y byddai’r drefn yn wahanol erbyn heddiw ac y byddai swyddogion diogelu o fewn yr Eglwys yng Nghymru wedi cael gwybod er mwyn ystyried camau pellach.

“Does yna ddim tystiolaeth ysgrifenedig o ymateb priodol, (fel camau disgyblu neu gysylltu gyda’r heddlu nac awdurdodau’r brifysgol)”, meddai’r datganiad.

Mae’r wybodaeth wedi ei phasio ymlaen i’r adolygiad sy’n ystyried honiadau eraill yn erbyn Pierce ac ymateb yr Eglwys iddyn nhw, ac mae disgwyl i’r wybodaeth gael ei chynnwys yn yr adroddiad fydd yn dilyn.

Maen nhw wedi dweud wrth Mr Adams fod ei bryderon am ymddygiad Pierce wedi eu pasio ymlaen i Esgob Abertawe ac Aberhonddu Benjamin Vaughan, ond nad oedd cofnod ysgrifenedig i’r esgob ymateb yn ffurfiol.

Bu farw Mr Vaughan yn 2003 ond mae un clerigwr yn dweud iddo herio Pierce ar y pryd, a bod yntau wedi gwadu cyhuddiadau Mr Adams.

Mae Mr Adams yn dweud ei fod yn falch fod y caplan wedi pasio’r honiadau ymlaen ar y pryd ac ei fod yn dawel ei feddwl ei fod wedi eu cymryd o ddifrif.

“Ond fe roiodd clerigwyr mwy profiadol stop ar unrhyw weithredu”, meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Canlyniadau Dydd Sul 4 Awst // Results for Sunday 4 August

Check Also

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar draws Cymru

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o …

Ched Evans: Fleetwood Town striker signs new one-year deal

Fleetwood striker Ched Evans has signed a new one-year deal. The 37-year-old rejoined the Cod …

Glain Llwyd yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i gael ei llwyfannu mewn gofod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.