google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws yng Ngheredigion

Advertisements

Mae menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws yng Ngheredigion.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i’r digwyddiad ar yr A487 rhwng pentrefi Plwmp a Phost-mawr tua 10:30 ddydd Gwener.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta arian, a bws Volvo un llawr.

Cafodd y fenyw oedd yn gyrru’r car ei hedfan i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, ond bu farw’n ddiweddarach ddydd Gwener.

Fe gafodd dyn oedd yn teithio yn y car hefyd anafiadau difrifol, ac mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru’r bws fân anafiadau, ond doedd dim angen triniaeth ysbyty arno.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam i gysylltu â nhw.


BBC News

Views: 1

See also  Cwis: Hirddydd Haf

Check Also

‘Byddai’n well gen i dynnu fy nannedd i gyd na aros am ddeintydd GIG’

Yn ôl y BDA nid yw’r newidiadau i’r cytundebau newydd – a ddaeth i rym …

Dal i fysgio ar ôl 36 o flynyddoedd

Mae’r ymateb yn gallu amrywio, meddai Carwyn, wrth sôn am wahanol ymweliadau. “Fi wedi cael …

Pam fod mewnfudo yn bwysig i rai cyn etholiad y Senedd?

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig – ynghyd â phlaid Reform – eisiau cael gwared ar y polisi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime