google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn o Fethesda yn rhedeg ‘ras anodda’r byd’ wrth i’w wraig golli’i golwg

Advertisements

Mae’r ras yn 380km o bellter ar hyd mynyddoedd a thirwedd heriol dros ben – o fynyddoedd y Carneddau, Tryfan, y Glyderau, Crib Goch, y Moelwynion a’r Rhinogydd, ar hyd Bannau Brycheiniog hyd at Lwybr y Taf a Chastell Caerdydd.

Mae nifer fawr yn gorfod rhoi’r gorau iddi cyn gorffen y ras, ac wedi poen corfforol difrifol bu’n rhaid i Chris ildio yn Llanymddyfri.

“Nes i stopio hanner ffordd ddoe [dydd Iau], tua dwy awr fewn i’r rhedeg ‘nes i ddechra’ cael poen yn ffrynt yng nghoes,” meddai.

“‘Nes i weld y medic a ma’ gen i tendonitis, a ma’ bob cam fath â poen yn saethu fyny fy nghoes, felly o’n i methu cario ‘mlaen.

“O’dd o’n brofiad gwych, o’dd o’n her fawr, ond pob dim yn dda amdano.

“‘Nes i enjoio fo er fod o’n rili anodd – ‘da chi’n cychwyn am 06:00 a ‘da chi’n gorfod gorffen erbyn 22:00, ac angen gwneud hyn a hyn o filltiroedd bob diwrnod.

“Felly ‘dach chi’n mynd, yn siarad efo pobl tra ‘dach chi’n mynd, yn gweld llefydd neis, y mynyddoedd, a wedyn ‘oeddach chi’n mynd yn ôl i’r camp yn y nos a trio ca’l bob dim yn barod at y diwrnod wedyn.

So o’dd o i gyd yn all go, ond o’dd y profiad jyst yn grêt.”


BBC News

Views: 4

See also  Tata Steel: £13.5m to help firms hit by Port Talbot job losses

Check Also

Lluniau: Dydd Sadwrn Tafwyl – BBC Cymru Fyw

Mae Tafwyl wedi dychwelyd i Gastell Caerdydd i ddathlu 20 mlynedd o’r ŵyl. Daeth miloedd …

Cyhuddo dyn 35 oed o geisio llofruddio yn Abertawe

Mae dyn 35 oed wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl digwyddiad ar stryd …

Concern over plans to replace free hospital park and ride with AI data centre

A free park and ride service for hospital staff, patients and visitors could be scrapped. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport miami dade fl. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment....