google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Undeb yn galw ar gyngor i ailbenodi pennaeth a gafodd ei diswyddo

Ysgol CystenninFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd penderfynodd Cyngor Conwy uno dwy ysgol i un ysgol gynradd o’r enw Ysgol Minafon, sydd wedi’i lleoli ar safle Ysgol Cystennin ym Mae Colwyn

Mae Cyngor Conwy wedi gwrthod rhoi swydd yn ôl i bennaeth ysgol a gafodd ei diswyddo, er ei bod wedi ennill apêl yn erbyn y penderfyniad, yn ôl undeb llafur.

Yn ôl undeb NAHT – sy’n cynrychioli arweinwyr ysgolion – cafodd Rhian Jones ei diswyddo’n orfodol, wrth i’r cyngor uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin y llynedd.

Mae’r undeb yn dweud fod panel wedi cefnogi apêl Ms Jones ym mis Gorffennaf, gan ddod i’r casgliad nad oedd y diswyddiad yn un cyfiawn.

Mae’r undeb bellach yn ystyried camau cyfreithiol.

Dywedodd Cyngor Conwy nad ydyn nhw’n gallu gwneud sylw ar y mater.

Beth mae’r undeb yn ei honni?

Y llynedd, penderfynodd Cyngor Conwy uno’r ddwy ysgol i un ysgol gynradd o’r enw Ysgol Minafon, sydd wedi’i lleoli ar safle Ysgol Cystennin ym Mae Colwyn.

Roedd Ms Jones wedi bod yn bennaeth ar ffederasiwn y ddwy ysgol. Dywedodd yr NAHT iddi gael ei diswyddo.

Dywedodd yr undeb eu bod wedi apelio at banel – proses fewnol llywodraeth leol – a bod y panel wedi dod i’r casgliad nad oedd y diswyddiad yn un cyfiawn, a bod gan Ms Jones hawl i’w swydd.

Mae’r undeb yn honni fod y cyngor wedi gwrthod ail-gyflogi Ms Jones. Mae gan yr ysgol newydd bennaeth gwahanol.

‘Ei rhoi trwy uffern’

Dywedodd Laura Doel, ysgrifennydd NAHT Cymru, fod Ms Jones “wedi cael ei rhoi trwy uffern”.

“Nid yw wedi gwneud unrhyw beth o’i le,” meddai Ms Doel.

“Roedden ni wedi annog y cyngor i atal y broses a chael cyngor cyfreithiol, ond fe wnaethon nhw ein hanwybyddu a pharhau.

“Mae’n gwbl anghyfreithlon ac yn annheg yn weithdrefnol i’r awdurdod… i anwybyddu neu wrthod gweithredu penderfyniad y panel apêl.”

Ychwanegodd Ms Doel eu bod eisiau “sicrhau nad oes unrhyw benaethiaid eraill yn cael eu trin fel hyn”.

‘Methu gwneud sylw’

Mae’r BBC yn deall bod yr undeb wedi cyflwyno hawliad i dribiwnlys, ac yn ystyried camau cyfreithiol pellach.

Roedd yn gofyn i’r awdurdod adfer Ms Jones i’w swydd ac ad-dalu’r cyflog sydd heb ei dalu iddi.

Dywedodd Cyngor Conwy eu bod “yn ymwybodol bod yr NAHT wedi cyhoeddi datganiad i’r wasg, ond, gan fod hyn yn ymwneud ag unigolyn, nid ydym yn gallu gwneud sylw ar y mater ar hyn o bryd”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Advertisements

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Views: 1

See also  Police investigation after three men found injured in Inverness

Check Also

NHS patients promised two-year waits to be 'eliminated' in 'matter of months'

The Welsh government has vowed to wipe out the longest waits patients face in the …

Tata Steel staff steal £1.2m of tin from work and sell it for scrap

Three steelworkers and an accomplice took 50 tonnes of tin ingots from the Tata site …

Liberato Cacace: Wrexham defender Cacace relishing New Zealand’s World Cup challenge

New Zealand, who came through the Oceania Football Confederation qualifiers to reach the finals, are …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.