google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymro yn Qatar: ‘Sefyllfa bach yn sensitif ac anodd ar hyn o bryd’

1ca12f10 5070 11f0 8c47 237c2e4015f5.jpg

Dywedodd Rhodri Ogwen Williams bod cyngor wedi cyrraedd tua dechrau eu gêm golff gan lysgenhadaeth Prydain i Brydeinwyr “fynd am gysgod ac i beidio mynd allan”.

Daeth difrifoldeb y sefyllfa i’r amlwg fwy fyth pan glywson nhw “maes awyr Qatar International wedi cau”.

Dywedodd bod Qatar “yn lwcus iawn i gael system gorchudd haearn, fel sy’ gyda nhw yn Israel” – system a gafodd ei gosod gan yr Americanwyr gan fod “maes awyr mwyaf yr Unol Daleithau tu allan fan hyn yn Qatar”.

“Dyna ydy’r targed ond dros yr wythnos i 10 diwrnod diwetha’ mae’r awyrennau i gyd wedi gadael y maes awyr.

“Fi’n poeni tam’ bach, dwi’ nawr yn mynd nôl gartre i gysgodi i gael gweld beth sy’n gweithio.”

Ychwanegodd mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Newyddion S4C, bod “petha’ bach yn anodd a bach yn sensitif ‘ma ar hyn o bryd”, nid yn unig yn Qatar ei hun ond mewn gwledydd cyfagos eraill fel Bahrain a Kuwait.


BBC News

Advertisements

See also  Dynes fu farw fis ar ôl gwrthdrawiad wedi bod yn gwella'n dda - cwest

Check Also

Cyngor yn argymell cau dwy ysgol wledig er gwaethaf gwrthwynebiad

Pan gafodd y cynlluniau i gau eu cyhoeddi gyntaf, roedd rhieni ym Metws-y -coed yn …

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime