google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chwe Gwlad: Yr Eidal x-x Cymru

564946f0 2364 11f0 beaa 09e98685e1a2.jpg

Advertisements

Roedd ‘na siom i Gymru wrth iddyn nhw golli yn erbyn yr Eidal yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

44-12 oedd y sgôr terfynol yn y Stadio Sergio Lanfranchi yn Parma wrth i’r gwrthwynebwyr sgorio pum cais yn erbyn tîm Sean Lynn.

Dyma’r golled drymach i dîm y merched sydd hefyd yn gorffen pencampwriaeth heb ennill gêm am y tro cyntaf.

Roedd Cymru ar y blaen o 12 pwynt i 10 ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn dilyn ceisiau gan Kate Williams a Gwenllian Prys, gyda Sofia Stefan yn ceisio i’r Eidal.

Ond fe diriodd Francesca Granzotto, Silvia Turani, Vittoria Minuzzi ac Aura Muzzo yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth ysgubol i’r Eidal.

Daeth Alex Callender, Maisie Davies, Carys Phillips, Jenni Scoble, Natalia John, Hannah Bluck, Cath Richards a Sian Jones i’r maes yn yr ail hanner.

Ond mae wedi bod yn ymgyrch siomedig i dîm Sean Lynn sy’n gorffen y bencampwriaeth gyda’r Llwy Bren.

Fe wnaeth Lloegr ennill y Chwe Gwlad am y seithfed tro yn olynol ar ôl curo Ffrainc dydd Sadwrn.


BBC News

Views: 0

See also  Eluned Morgan: Y prif weinidog na allai atal y llanw

Check Also

Joe Lacey: How a goal against Wrexham led Australia-born midfielder back with Wales

From scoring against Wrexham to representing Wales in Wrexham – Joe Lacey has come “full …

Nations Championship: What Argentina-bound Wales learned from Fiji win

The major negative for Welsh rugby was the fact the match was played in front …

Women’s T20 Blast: Glamorgan target finals day silverware on home soil

Following Sunday’s final round of league fixtures, Glamorgan learned they would face either Kent or …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants.