google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cerdded Cymru eto i gwblhau 11,000 milltir ar ôl canser

930bb4a0 1398 11f0 b054 11b99aeb4b3e.jpg

Advertisements

Mae’n garedicach gyda’i hun ar y daith hon, gan mai cyrraedd ei hapwyntiad nesaf yn y siopau llyfrau sy’n bwysig, nid cyfrif pob un filltir yn ddeddfol.

“Mae’r daith yma’n wahanol i unrhyw beth dwi wedi ei wneud o’r blaen achos dwi wedi gorfod amserlennu popeth o flaen llaw,” meddai.

“Yn amlwg all siop lyfrau ddim aros i mi gyrraedd – mae’n rhaid imi fod yno ar amser.”

I wneud yn siŵr o hynny, mae wedi rhoi targed o 10 milltir y dydd i’w hun; sy’n dipyn o her i’r rhan fwyaf o bobl, ond i Ursula mae hyn yn rhoi digon o amser iddi gyrraedd ei hapwyntiad nesaf mewn da bryd.

“Ar daith Ewrop ro’n i’n cerdded rhwng 12 a 15 milltir y dydd, weithiau allwn i wneud 18 os o’n i ar dir fflat, braf, hawdd. Felly dwi’n gwybod os oes gen i’r egni y galla’ i wthio fy hun i 18 milltir os oes angen,” meddai.

Ei stop nesaf fydd Caerfyrddin ar 10 Ebrill, yna bydd yn galw heibio i siopau yn Abertawe, Caerdydd, Llandeilo, y Fenni a’r olaf yng Nghas-gwent ar 3 Mai.

Y bwriad ydi gorffen y daith drwy Gymru ar 6 Mai, cael wythnos o hoe, ac yna cychwyn ar ail ran y daith o bum mis a chyrraedd pen pella’r Alban ddiwedd Hydref, wedi hen groesi’r nod o 10,000 milltir.


BBC News

Views: 0

See also  Cyhuddo dyn, 18, o lofruddio merch, 17, yng Nghefn Fforest

Check Also

'Rhan o hunaniaeth y plant': pwysigrwydd dysgu am Aberfan

Mae dysgu am drychineb Aberfan yn “hanfodol” i hunaniaeth plant y pentref, yn ôl pennaeth …

Mimi Xu: Expectation a privilege for Wales’ teenage tennis star

Xu will likely play in qualifiers at Ilkey, Nottingham, Eastbourne and Roehampton, but the postcode …

Siom wrth i Gymru golli yn Rwmania

Colli o 2-1 wnaeth tîm dynion Cymru yn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Rwmania yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
car transport companies. Just a moment.... 429 too many requests.