google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgyblion ar eu colled yn sgil prinder athrawon cyflenwi

Dywedodd Mark Isherwood AS, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus bod safon y cyflenwad athrawon yn hollbwysig.

“Rhaid i ni ddarparu’r ddarpariaeth orau bosibl i gyflenwi absenoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel na fydd addysg plant yn dioddef yn ormodol”, meddai.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wella’r sefyllfa ond bod cynnydd yn rhy araf a bod diffyg monitro yn golygu nad oes modd asesu os yw’r newidiadau’n llwyddiannus ai peidio.

“Mae’n bwysig nodi yr hoffai’r pwyllgor weld y ‘pwll cyflenwi cenedlaethol’ a drafodwyd ers tro yn cael ei wireddu’n genedlaethol a bod pob athro cyflenwi yn gallu manteisio ar gyflog uwch, pensiwn a hyfforddiant eu cydweithwyr,” ychwanegodd.

Mae datblygu model cynaliadwy ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi yn un o addewidion rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Ond clywodd aelodau’r pwyllgor dystiolaeth bod yna broblemau’n parhau gydag ysgolion yn cyflogi staff heb gymwysterau i wneud gwaith athrawon cyflenwi.

Mae’r pwyllgor yn galw ar y llywodraeth i fonitro hynny a rhoi trefniadau mewn lle i sicrhau bod athrawon cyflenwi, goruchwylwyr llanw a gweithwyr cymorth dysgu yn gweithio o fewn eu disgrifiadau rôl.


Source link

Views: 0

See also  Cyngor Gwynedd i ystyried ymchwiliadau pellach i droseddau Foden

Check Also

Ethan Galbraith: Vitor Matos ‘optimistic’ midfielder will sign new Swansea City contract

Swansea City head coach Vitor Matos is “optimistic” that Ethan Galbraith will agree a new …

Joe Morrell: Ex-Wales and Portsmouth midfielder relishing new life as a coach

As a player, Morrell made more than 100 appearances for Portsmouth, while he also feature …

Llwyddiant dwy chwaer o’r Bala ar y cae rygbi

Mae timau eraill merched ardal y Bala hefyd wedi profi cryn lwyddiant eleni. “Roedd hi’n …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime