google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ifor ap Glyn: Beth yw dwyieithrwydd?

Mae’r faich o fod yn ddwyieithog yn sicr yn disgyn mwy ar ysgwyddau’r rhai sy’n siarad Cymraeg, na’r rhai sy’n siarad Saesneg yng Nghymru.

Pan on i’n tyfu fyny yn Llundain erstalwm, on i’n cael fy ngwneud i deimlo fod siarad mwy nag un iaith ychydig yn ‘od’. A dwi’m yn amau nad oedd yr un peth yn wir i lawer o ’nghyfoedion yn ninasoedd a chymoedd Cymru hyd yn oed. Paradocs hybu’r Gymraeg yn y byd sydd ohoni, yw’r angen i normaleiddio dwyieithrwydd.

Anffawd Cymru yw byw ar ymylon cymdeithas sydd yn bennaf unieithog, sef Lloegr. Ac un o’r prif ddylanwadau diwylliannol arnom o du hwnt i Loegr, yw cymdeithas arall sydd yn bennaf unieithog, sef yr Unol Daleithiau. Ond nid dyna’r patrwm sy’n dominyddu, os edrychwn o gwmpas y byd…

Rai blynyddoedd yn ôl, gofynnwyd imi gadeirio lansiad llyfr o’r enw Agweddau ar Ddwyieithrwydd, gan Enlli Thomas a Peredur Webb-Davies. Ynghanol y myrdd o ffeithiau difyr yn yr astudiaeth, roedd ‘na un wnaeth fy nharo yn fy nhalcen.

Er nad oes sicrwydd ynglŷn â faint yn union o bobl y byd sy’n medru dwy iaith neu fwy, mae’r gwahanol awdurdodau yn gytûn ar un peth, sef bod dros hanner y byd yn medru mwy nag un iaith.

Dwyieithrwydd felly yw’r norm o gwmpas y byd, nid rhywbeth od mae’r Cymry’n mynnu ei wneud – oherwydd felly, yn rhy aml, y cawsom ein cyflyru i feddwl!

Bwriad rhaglenni Dwyieithrwydd dros y Dŵr yw rhoi darlun o rai o ieithoedd eraill Ewrop sydd hefyd yn bodoli mewn cyd-destun dwyieithog.

Mae rhai fel y Wyddeleg a’r Fasgeg yn ieithoedd cymharol fach o ran nifer eu siaradwyr; mae eraill fel y Fflemeg, a’r Gatalaneg, yn rhifo’u siaradwyr yn y miliynau – ond maen nhw i gyd yn gorfod cydfyw hefo iaith arall fwy niferus, neu fwy dylanwadol. Beth yw natur eu perthynas nhw â dwyieithrwydd – a beth allwn ni ddysgu ganddynt?


Source link

Views: 0

See also  Undeb Rygbi Cymru yn penodi Dave Reddin yn gyfarwyddwr rygbi

Check Also

Senedd wedi methu a chydymffurfio gyda’i chynllun ieithoedd

Fis Mawrth 2026, cyhoeddodd fforwm y cadeiryddion ei adroddiad o effeithiolrwydd pwyllgorau yn y chweched …

Reform calls for badger cull in fight against bovine TB

Conservative MS Paul Davies backed Reform’s position, arguing ministers should not wait for further evidence …

At-home body piercing kits leading to deformities, expert says

In the UK, there is no minimum age for ear piercings carried out by a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime