google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Y Cymro gafodd sgŵp Oasis cyn iddyn nhw ddod yn enwog

7e282430 4c2b 11f0 8c47 237c2e4015f5.jpg

Aeth draw i TJ’s ar gyfer y soundcheck ond yn anffodus, fel daeth yn batrwm dros y blynyddoedd i ddod, aeth hi’n ffrae rhwng y brodyr Gallagher gan fod Liam yn gwrthod canu llinell gyntaf newydd roedd Noel wedi sgwennu ar gyfer Shakermaker.

Ar ôl i Noel adael y lleoliad mewn tymer dywedodd rheolwr y daith na fyddai ‘na gyfweliad.

Ond fel newyddiadurwr da, wnaeth Rob ddim rhoi fyny. Fe wnaeth o a’i gyd-newyddiadurwr ddilyn gweddill y band o bellter drwy ganol Casnewydd, lle gawson nhw fwyd parod a mynd ymlaen i’w gwesty.

“Roedden ni am fynd i’r dderbynfa i ofyn i gael gweld Noel, ond pan oedden ni’n ddigon dewr i fynd mewn i’r gwesty roedd Liam yn eistedd wrth y bar yn cael diod o gwrw a wnaeth e gytuno i wneud y cyfweliad yn lle,” meddai Rob wrth Cymru Fyw.

“Dim ond fe oedd yno ac roedd e’n charming iawn, iawn – yn siarad yn hyderus iawn am gynlluniau eu gyrfa ac yn siarad yn braf am ei deulu.”

Yn ffodus hefyd i Rob, sy’n wreiddiol o Maerdy yn y Rhondda, enw’r bar yng ngwesty’r King’s Head oedd Oasis – oedd yn berffaith ar gyfer llun.


BBC News

Advertisements

See also  Arts in Wales to get extra £4.4m funding

Check Also

Proposed Swansea sex shop could ‘undermine’ domestic abuse centre

Goodman said she had not been aware of the work done at One Stop Shop …

BBC commentator thanks Cardiff City legend for saving him after heart attack

Blake, who played 131 times for City as well as winning 29 Wales caps, credited …

Corey Domachowski: Scarlets new signing suffers blow as Wales prop ruled out for two months

Scarlets will be without new signing Corey Domachoskwi for two months because of a chest …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime